NODWCH: Nid oes rhaid ystyried unrhyw daliadau yr ydych chi’n eu derbyn oddi wrth Gynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru wrth gyfrifo eich hawl i’r budd-daliadau a drafodir yn yr adran hon. Am ragor o wybodaeth, gweler y canllawiau manwl yma.
Mae Lwfans Gweini (AA) o fudd i bobl 65 oed neu hŷn, sy'n cael trafferth edrych ar ôl eu hunain oherwydd salwch neu anabledd. Ni fydd eich incwm a'ch cynilion yn effeithio ar eich hawliad os bydd Lwfans Gweini yn cael ei ddyfarnu i chi, ac ni fydd unrhyw ddyfarniad yn lleihau eich budd-daliadau eraill.
Mae Lwfans Gweini yn cael ei dalu ar un o ddwy gyfradd i'w gael yma.
Mae'r Lwfans Gweini yn seiliedig ar faint o ofal sydd ei angen arnoch, nid ar faint o ofal rydych chi’n ei gael ar hyn o bryd. Does dim angen i chi fod â gofalwr i allu cael y budd-dal hwn. Mae'n rhaid eich bod chi wedi cael y problemau hyn am o leiaf chwe mis. Fodd bynnag, mae yna broses garlam o'r enw ' rheolau arbennig ' os ydych chi’n derfynol wael - cysylltwch â ni i gael cyngor pellach.
I hawlio, gallwch ffonio llinell gymorth Lwfans Gweini'r Adran Gwaith a Phensiynau ar 0345 605 6055, neu ddefnyddio’r rhif ffôn testun 0345 604 5312, a gofyn iddynt anfon ffurflen atoch chi. Gallwch lawrlwytho ac argraffu ffurflen gais hefyd yn gov.uk. Gan fod ceisiadau ar gyfer Lwfans Gweini yn aml yn gallu bod yn hir, a bod yn rhaid eu cwblhau o fewn chwe wythnos, cysylltwch â chynghorydd hawliau lles WIBSS cyn gynted â phosibl os oes angen unrhyw gymorth neu arweiniad arnoch chi.
Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn daliad rheolaidd i'r rheiny sydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys. Ar hyn o bryd, mae oedran pensiwn y wladwriaeth yn amrywio ar gyfer dynion a menywod.
Bydd Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer dynion a menywod yn cynyddu mewn camau, ac yn cyrraedd 67 erbyn 2028. I wirio pryd y byddwch yn cyrraedd yr oedran perthnasol, gallwch ffonio'r Future Pension Centre ar 0345 3000 168, neu ewch i gov.uk.
Bydd y swm rydych chi’n ei dderbyn yn dibynnu ar pryd y cyrhaeddoch chi Oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Does dim rhaid i chi hawlio’r Pensiwn y Wladwriaeth newydd cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Drwy ddewis hawlio hyn yn nes ymlaen, gallech gael mwy o arian pan fyddwch yn hawlio.
Os ydych chi ar incwm isel, mae Credyd Pensiwn wedi'i gynllunio i ychwanegu at eich incwm wythnosol. Mae’n cael ei rannu’n ddwy ran;
- Credyd Gwarantedig, sy’n cynyddu eich incwm wythnosol os yw o dan swm penodol. Efallai y gallwch gael taliadau mwy, uwch, os ydych chi’n ofalwr neu gydag anabledd difrifol.
- Credyd Arbedion ar gyfer pobl sydd wedi cynilo rhywfaint o arian tuag at eu hymddeoliad (er enghraifft, mewn pensiwn personol).
Gall y swm y byddwch yn ei dderbyn gynyddu os ydych yn ofalwr, neu os oes gennych chi anabledd. Ar y llaw arall, at ddibenion dangosol, dyma’r cyfraddau o Ebrill 2017 – Ebrill 2018.
Cyfradd | Credyd Gwarantedig Wythnosol |
Pobl Sengl | Pa bynnag swm sydd ei angen arnoch i godi eich incwm wythnosol i o leiaf £159.35 |
Cyplau | Pa bynnag swm sydd ei angen arnoch i godi eich incwm wythnosol i o leiaf £243.25 |
I wneud cais, ffoniwch y llinell hawlio Pensiwn Credyd ar 0800 99 1234, ffôn testun 0800 169 0133, neu ewch i gov.uk.
Gall Budd-dal Tai eich helpu i dalu'ch rhent os ydych chi’n ddi-waith, ar incwm isel neu'n hawlio budd-daliadau. Mae'n cael ei ddisodli’n raddol gan Gredyd Cynhwysol.
Gallwch wneud hawliad newydd am Fudd-dal Tai os oes unrhyw un o’r canlynol yn gymwys:
- os ydych chi’n derbyn y premiwm anabledd difrifol, neu os oes gennych chi hawl i’w gael
- os ydych chi wedi cael, neu os oedd gennych chi hawl i gael premiwm anabledd difrifol o fewn y mis diwethaf, ac yn dal i fod yn gymwys i'w gael
- eich bod chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- os ydych chi’n byw mewn tai â chymorth, gwarchod neu dros dro
Mae’r swm y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar:
- eich rhent ‘cymwys’
- os oes gennych chi ystafell sbâr
- incwm eich cartref – yn cynnwys budd-daliadau, pensiynau a chynilion (dros £6,000)
- eich amgylchiadau, er enghraifft, oedran y bobl yn y tŷ neu os oes gan rywun anabledd
Os yw eich rhent yn uwch na swm y budd-dal tai y byddwch yn ei gael, bydd yn rhaid i chi dalu'r gwahaniaeth. Efallai y bydd modd i chi gael Taliad Disgresiwn at Gostau Tai, i helpu gyda hyn yn y tymor byr.
Mae’n rhaid i chi gysylltu â'ch cyngor lleol er mwyn gwneud cais am Fudd-dal Tai neu Daliad Disgresiwn at Gostau Tai; gellir dod o hyd i fanylion am eich awdurdod dyfarnu yma. Fel arall, os oes angen cymorth neu gyngor arnoch, siaradwch â'ch cynghorydd hawliau lles drwy gysylltu â ni yma.
Efallai y bydd modd i chi gael help ychwanegol gyda'ch taliadau llog ar eich morgais os byddwch yn hawlio un o’r canlynol:
- Credyd Pensiwn
Gall y budd-daliadau hyn gynnwys costau tai eraill hefyd, fel taliadau gwasanaeth a rhent tir. Os oes gennych y costau hyn, dylech wneud cais am help drwy eich budd-dal.
Ers mis Ebrill 2016, mae pobl wedi gorfod aros am 39 wythnos (tua naw mis) rhwng y tro cyntaf iddynt hawlio'r budd-daliadau rydym wedi’u rhestru uchod, a gallu cael gafael ar y cymorth ychwanegol gyda chostau tai.
O fis Ebrill 2018, bydd y ffordd mae cymorth gyda llog ar eich morgais yn cael ei dalu yn newid. Bydd yn newid o fudd-dal i fenthyciad hirdymor. Os ydych chi’n hawlio cymorth gyda llog ar eich morgais, byddwn yn cysylltu â chi ynghylch y newid hwn.
Mae Gostyngiad yn y Dreth Gyngor, sydd wedi'i gynllunio i ddisodli Budd-dal y Dreth Gyngor, yn darparu cymorth tuag at gost eich treth gyngor os ydych chi ar incwm isel. Mae swm y cymorth sydd ar gael yng Nghymru yr un fath ar draws y wlad, ond bydd angen i chi gysylltu â'ch awdurdod lleol er mwyn hawlio hyn. Gallwch ddod o hyd i fanylion eich awdurdod yma.