Ar gyfer buddiolwyr sydd wedi trosglwyddo i WIBSS o un o bum Cynllun blaenorol y DU, bydd eich taliad chwarterol neu fisol gwreiddiol yn parhau. Yn yr un modd, os ydych chi wedi cofrestru gyda WIBSS yn ddiweddar, gallwch ddewis rhwng taliadau chwarterol neu fisol hefyd.
Bydd eich taliad cyntaf o dan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru yn daladwy ar 20 Tachwedd 2017. Os ydych chi’n ymgeisydd newydd i WIBSS, yn wraig weddw, gŵr gweddw neu’n bartner sydd newydd gofrestru, wedi newid eich amgylchiadau’n ddiweddar, neu fod y gyfradd rydych chi’n cael eich talu arni i fod i newid, bydd dyddiadau personol yn cael eu hanfon atoch drwy eich manylion cyswllt dewisol.
Ni fyddwch yn derbyn unrhyw daliad pellach (boed yn rheolaidd neu'n ddewisol) o'r cynlluniau blaenorol, o 1 Tachwedd 2017. Os nad ydych chi wedi rhoi eich caniatâd ar gyfer hyn, cysylltwch â'ch cynllun blaenorol ar frys, fel y gellir trosglwyddo eich manylion i WIBSS cyn gynted â phosibl. Gallwch gysylltu â'r pum cynllun blaenorol tan Ionawr 2018. Cysylltwch â ni i drafod eich symiau unigol o daliadau, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am eich taliadau WIBSS newydd
Os yw eich amgylchiadau'n newid, mae'n bwysig rhoi gwybod i ni yma yn WIBSS cyn gynted â phosibl. Gallai enghreifftiau gynnwys newidiadau i’ch iechyd, statws perthynas, neu os yw buddiolwr yn marw. Os byddwch yn cysylltu â ni, rydym yn fwy na pharod i'ch cynghori ar unrhyw gamau nesaf perthnasol.
Gall eich Cynghorwr WIBSS pwrpasol roi gwybodaeth i chi am gyfrifon banc sydd ar gael ar gyfer eich amgylchiadau, a'ch tywys chi drwy'r broses o agor cyfrif os oes angen hynny. Fel arall, os byddwch yn newid darparwr eich cyfrif banc, cysylltwch â ni, fel y gallwn ddiweddaru eich cofnodion talu.
Gallwch enwebu cynrychiolydd i weithredu ar eich rhan, rhoi cyfeiriad cyswllt arall, neu roi gwybod i ni am Atwrneiaeth drwy ein ffurflen dewisiadau cyswllt yma, neu gysylltu’n uniongyrchol gyda ni.
Gallwch ddod o hyd i fanylion am sut i apelio yn erbyn penderfyniad WIBSS yma
Byddwn yn cysylltu â chi ynghylch digwyddiadau, cyfarfodydd rhanddeiliaid a sut i gymryd rhan cyn bo hir. Fodd bynnag, os ydych chi eisiau rhoi adborth neu gysylltu'n gynt.
Mae'n bwysig ein bod ni’n croesawu sylwadau ac yn dysgu o brofiadau pobl, boed yn dda neu'n wael, am ein gwasanaethau. Mae'r mwyafrif helaeth o bobl yn hapus gyda'r gwasanaeth maen nhw’n ei dderbyn. Ond weithiau, efallai na fydd pethau'n mynd cystal â'r disgwyl. Pan fydd hynny'n digwydd, mae angen inni edrych ar beth aeth o'i le er mwyn inni geisio'i wella. Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre bolisi clir ar waith os ydych chi eisiau mynegi pryder – gallwch ddod o hyd i fanylion am hyn yma.