Dewch o hyd i Gylchlythyrau’r gorffennol isod
WIBSS Adroddiad Blynyddo
WIBSS Adroddiad Blynyddol 2020/2021
WIBSS Adroddiad Blynyddol 2021/2022
Mae cyhoeddiad arfaethedig Adroddiad Terfynol yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig wedi'i ohirio tan fis Mawrth 2024. Mae'r datganiad llawn ar gael ar-lein. Stori newyddion Cyhoeddi Adroddiad yr Ymchwiliad
TEITL |
Cyflwyno taliadau plant o dan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru |
DYDDIAD | 06 Rhagfyr 2022 |
GAN | Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol |
Rwy’n falch o roi gwybod i’r aelodau am gymorth ychwanegol i bobl sydd wedi’u heintio â Hepatitis C a/neu HIV drwy waed neu gynhyrchion gwaed halogedig. Mae’r effaith sylweddol ar eu bywydau, a’u teuluoedd, wedi cael ei thrafod yn helaeth yn y Senedd.
Rwyf wedi cytuno i gyflwyno “taliad plentyn” sy’n adeiladu ar y cyn-taliadau ex-gratia a wneir ar hyn o bryd o dan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS) ar ein rhan. Bydd y taliad hwn yn cael ei dalu’n flynyddol, o fis Ionawr 2023, ar y gyfradd o £3,000 ar gyfer plentyn cyntaf a £1,200 am yr ail a phob plentyn dilynol.
Bwriedir y taliad ar gyfer gofal a chymorth plentyn/plant, sydd naill ai’n blentyn biolegol neu’n rhan o aelwyd buddiolwr heintiedig - gall hyn fod yn blentyn/plant mabwysiedig neu blentyn/plant partner buddiolwr heintiedig y maent yn byw gydag ef. Gall y taliad gael ei hawlio gan y buddiolwr heintiedig, buddiolwr mewn profedigaeth neu brif ddarparwr gofal plentyn/plant buddiolwr heintiedig (hynny yw rhywun nad yw’n fuddiolwr ond sy’n gyfrifol am gymorth plentyn/plant buddiolwr heintiedig y maent yn gofalu amdano).
Bydd y taliad yn parhau nes y bydd argymhellion yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn hysbys, ac wedi’u hystyried gan bedair adran iechyd y DU.
Bydd WIBSS yn ysgrifennu at yr holl fuddiolwyr gyda manylion y meini prawf cymhwysedd a’r broses ymgeisio.
CANLYNIADAU AROLWG BODDHAD CWSMERIAID
COVID-19
Gallai’r gwasanaethau sydd yn cael eu darparu gan WIBSS gael eu heffeithio gan Coronafeirws. Byddwn yn amlwg yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod taliadau rheolaidd yn parhau i gael eu talu i chi; ein bod yn darparu cyngor a chymorth o hyd; a bod y gwsanaeth yn cael ei darfu cyn lleied â phosibl. Gofynnwn yn garedig i chi fod yn amyneddgar yn ystod yr amgylchiadau eithriadol hyn.
Yn ystod y pandemig presennol, rydym yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru ac mae nifer o’n staff yn gweithio o gartref. Os na fydd eich galwad yn cael ei hateb ar unwaith, gadewch neges gyda’ch enw a’ch rhif cyswllt, a byddwn yn cysylltu â chi’n brydlon.
Gallwch gysylltu â Rheolwr WIBSS hefyd, sef Mary Swiffen-Walker ar 07970 601561 yn ystod oriau swyddfa.
I gael cyngor a chanllawiau ar y feirws, cliciwch ar y dolenni isod –
https://phw.nhs.wales/topics/latest-information-on-novel-coronavirus-covid-19/
https://www.gov.uk/government/topical-events/coronavirus-covid-19-uk-government-response
Coronavirus (COVID-19) | Topic | GOV.WALES
https://www.bhiva.org/SARS-CoV-2-vaccine-advice-for-adults-living-with-HIV-plain-english-version
https://britishlivertrust.org.uk/update-for-people-with-liver-disease-on-the-covid-19-vaccine/
https://phw.nhs.wales/topics/immunisation-and-vaccines/covid-19-vaccination-information/