Hysbysiad Preifatrwydd
Diben yr hysbysiad hwn yw eich hysbysu ynghylch pam a sut rydym yn prosesu eich data personol.
Hysbysiad Preifatrwydd Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru
Cyflwyniad
Mae GIG Cymru yn gartref i sawl sefydliad iechyd, sy’n cynnwys Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC). Mae PCGC yn darparu llawer o wasanaethau ledled Cymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r wybodaeth hon, rhaid i chi gysylltu â Chynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru ar 02921 500 900 neu anfon e-bost at: VCC.WIBSS@wales.nhs.uk
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi’i gyhoeddi gan swyddogaeth Llywodraethu Gwybodaeth PCGC i gynorthwyo a hwyluso prosesau hawliau gwybodaeth o fewn GIG Cymru.
Eich hawliau
Mae’r daflen hon yn ymdrin â’ch hawliau o dan ddeddfwriaeth a elwir y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU). Mae’n pwysleisio angen PCGC i wneud yn siŵr ein bod yn esbonio sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth yn ystod unrhyw broses sy’n cynnwys gwybodaeth gyfrinachol adnabyddadwy a sensitif.
Bydd yr wybodaeth a roddwn ichi am sut y byddwn yn defnyddio’ch data:
- Yn gryno, yn hawdd ei deall ac yn hygyrch.
- Wedi’i hysgrifennu’n glir ac yn syml ac
- Yn rhad ac am ddim.
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, fel y sefydliad sy’n lletya Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) a Chanolfan Ganser Felindre (CGF) sy’n gyfrifol am y gwasanaeth hwn.
Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS)
Wedi’i sefydlu ym mis Hydref 2017, nod Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS) yw darparu cymorth i bobl sydd wedi’u heintio â Hepatitis C a/neu HIV o ganlyniad i driniaeth y GIG â gwaed, cynhyrchion gwaed neu feinwe yng Nghymru.
Mae WIBSS wedi cymryd drosodd cynlluniau blaenorol y DU (Ymddiriedolaeth Eileen, Ymddiriedolaeth Macfarlane, MFET Ltd, Cronfa Skipton a Sefydliad Caxton) a’i nod yw darparu gwasanaeth taliadau ariannol symlach, Gwasanaeth Cyngor Llesiant a gwasanaeth Seicoleg a Llesiant ar gyfer buddiolwyr a’u teuluoedd yng Nghymru.
Pa gyfreithiau ydyn ni’n eu dilyn?
Y gyfraith sy’n pennu sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth. Dyma restr o’r cyfreithiau rydym yn eu dilyn sy’n caniatáu inni ddefnyddio’ch gwybodaeth:
- Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU)
- Bil Diogelu Data’r DU
- Y Ddeddf Hawliau Dynol
- Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
- Dyletswydd Cyfrinachedd y Gyfraith Gyffredin
- Y Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron
- Deddf y Comisiwn Archwilio
- Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio
Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS) sy’n gweinyddu’r prosesau ar ran GIG Cymru, yw deiliad a defnyddiwr eich gwybodaeth.
Pa fathau o wybodaeth bersonol ydyn ni’n eu defnyddio?
Bydd yr wybodaeth a restrir isod, a roddwch fel rhan o broses WIBSS, yn cael ei defnyddio fel a ganlyn.
Cymhwyso
- Enw’r cynllun;
- Cyfeirnod y cynllun;
- Cyfenw; Pob enw hysbys;
- Enw(au) Cyntaf;
- Dyddiad Geni;
- Cyfeiriad a chod post;
- Math o gais – ar gyfer gwirio ceisiadau newydd;
- Unrhyw gyfeiriadau blaenorol yn y DU – ar gyfer gwirio ceisiadau newydd; ac
- Unrhyw gyfrifon cysylltiedig gan Bartneriaid, Dibynyddion – ar gyfer gwirio ceisiadau newydd.
Gwirio gyda chynlluniau gwaed heintiedig eraill
- Enw’r cynllun;
- Cyfeirnod y cynllun;
- Cyfenw; Pob enw hysbys;
- Enw(au) Cyntaf;
- Dyddiad Geni;
- Cyfeiriad a chod post;
- Math o gais – ar gyfer gwirio ceisiadau newydd;
- Unrhyw gyfeiriadau blaenorol yn y DU – ar gyfer gwirio ceisiadau newydd;
- Unrhyw gyfrifon cysylltiedig gan Bartneriaid, Dibynyddion – ar gyfer gwirio ceisiadau newydd; a
- Gwybodaeth profiant yn ymwneud â thalu arian sy’n ddyledus i ystad buddiolwyr ymadawedig.
Math o wybodaeth bersonol a ddefnyddiwyd (parhad)
Taliadau
- Enw’r cynllun;
- Cyfeirnod y cynllun;
- Cyfenw; Pob enw hysbys;
- Enw(au) cyntaf; a
- Manylion banc.
Pam rydym yn prosesu eich gwybodaeth.
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a roddwch i:
- asesu eich cais,
- gwneud taliadau yn unol â Chynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS),
- gwirio am dwyll a gwallau,
- dadansoddi tueddiadau cyffredinol i gefnogi cynllunio mwy effeithiol ar gyfer gwasanaethau’r GIG.
Yn ôl y gyfraith, rhaid inni brosesu’r wybodaeth hon ar ran y GIG.
Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â chymryd rhan mewn arolygon ac ymchwil i ddysgu beth sydd ei angen arnoch o’n gwasanaethau.
Rhannu eich gwybodaeth bersonol
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â’r canlynol:
- gweinyddwyr Cynlluniau Cymorth Gwaed Heintiedig eraill yn y DU i sicrhau eich bod yn cael eich cyfeirio at y cynllun cywir, gan gynnwys gweithgareddau paru data at ddibenion atal twyll,
- Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i wneud taliadau o dan y Cynllun Iawndal Dros Dro Gwaed Heintiedig (ICSP),
- gweithwyr meddygol proffesiynol ar gyfer asesu unrhyw geisiadau/apeliadau a wneir yn y dyfodol,
- yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol at ddibenion cynllunio a gwybodaeth,
- GIG Cymru at ddibenion cynllunio a gwybodaeth, a chynghori ar gynnwys triniaethau seicolegol ychwanegol, i’r rhai a restrir gan NICE,
- Russell Cooke Solicitors i gael yr wybodaeth angenrheidiol i wneud taliadau cywir,
- Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) / Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (HMCTS) a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) ar gyfer prosesu taliadau iawndal i ystad buddiolwr ymadawedig (yn ymwneud â gwybodaeth profiant).
Byddwn yn rhannu gwybodaeth i helpu i atal twyll a chamgymeriadau.
O dan y gyfraith, dim ond gyda’r rhai sy’n gyfrifol am Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (a chynlluniau Cenhedloedd eraill) y caiff eich gwybodaeth ei rhannu.
Gwneir hyn fel mai dim ond y bobl briodol sy’n gweithio gyda’i gilydd i atal twyll a darparu’r gwasanaeth priodol.
Mae’r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio’ch gwybodaeth fel a ganlyn:
Erthygl 6 GDPR y DU (Cyfreithlondeb Prosesu):
Mae Testun Data 1(a) wedi rhoi cydsyniad i brosesu ei ddata personol at un neu fwy o ddibenion penodol;
(b) mae angen prosesu ar gyfer cyflawni contract y mae gwrthrych y data yn cymryd rhan ynddo neu er mwyn cymryd camau, ar gais gwrthrych y data, cyn ymrwymo i gontract;
(e) mae angen prosesu ar gyfer cyflawni tasg a weithredir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a ymddiriedir yn y rheolwr;
(f) Mae angen prosesu at ddibenion y buddion cyfreithlon y mae’r rheolwr neu drydydd parti yn eu dilyn
Erthygl 9 GDPR y DU (Prosesu Categorïau Arbennig o Ddata Personol)
2(a) Mae’r testun data wedi rhoi cydsyniad clir i brosesu’r data personol hynny at un diben penodol neu fwy;
(h) bod prosesu yn angenrheidiol at ddibenion darparu gofal iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol.
Diogelwch eich Gwybodaeth
Mae PCGC yn cymryd y cyfrifoldeb sydd ganddi i warchod eich gwybodaeth bersonol yn ddifrifol iawn. Ni waeth a yw’r wybodaeth honno ar ffurf electronig neu ar bapur.
Rydym hefyd yn cyflogi rhywun sy’n gyfrifol am reoli gwybodaeth a’i chyfrinachedd er mwyn sicrhau:
- Bod eich gwybodaeth wedi ei diogelu, ac er mwyn
- Rhoi gwybod ichi sut y caiff ei defnyddio.
Mae disgwyl i bob aelod o staff gwblhau hyfforddiant yn rheolaidd. Mae angen hyfforddiant cynhwysfawr er mwyn gallu diogelu’r wybodaeth sydd wedi ei rhoi i PCGC. Mae’r hyfforddiant hwn yn sicrhau bod pob aelod o staff sy’n gweithio yn GIG Cymru yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau mewn perthynas â thrin eich gwybodaeth, ni waeth pa adran mae’n gweithio ynddi.
Cadw eich gwybodaeth bersonol
Ni fydd unrhyw ddata personol yn cael ei ddileu cyn i’r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig ddod i ben. Dim ond cyhyd â’r dibenion y caiff ei gasglu a’i brosesu ar ei gyfer y bydd data’n cael ei gadw, a chaiff hyn ei adolygu ar ddiwedd yr ymchwiliad.
Fel buddiolwr, dim ond at y dibenion a eglurwyd uchod y bydd gwybodaeth a brosesir amdanoch yn cael ei defnyddio ac ni chaiff ei rhannu ag unrhyw un arall heb ganiatâd. Yr unig eithriad yw ar y cyd â gorchymyn llys neu ofyniad deddfwriaethol.
Eich hawliau
Caiff yr wybodaeth rydych chi wedi ei darparu ei rheoli yn unol â’r gyfraith ym maes diogelu data.
Mae gennych yr hawl i’r canlynol:
- Gwybod sut y defnyddir y manylion a geir o’ch gwybodaeth.
- derbyn copi o’r wybodaeth y mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) yn ei chadw amdanoch chi,
- gofyn inni newid eich gwybodaeth os ydych chi’n credu nad oedd yn gywir pan ddarparwyd yr wybodaeth gennych,
- gofyn i’ch gwybodaeth gael ei dileu os credwch ein bod yn ei chadw am gyfnod hirach nag sydd angen.
I gael gwybod mwy am eich hawliau a sut rydym yn prosesu eich gwybodaeth, cliciwch yma Polisi Preifatrwydd – WIBSS (wales.nhs.uk)
Caniatâd (cydsyniad)
Er mwyn sicrhau bod y defnydd o’ch gwybodaeth bersonol yn gyfreithlon, mae’n bosibl y bydd PCGC yn gofyn am eich caniatâd i’w defnyddio. Nid yw hyn yn angenrheidiol os yw’r defnydd ar gyfer sail gyfreithlon o dan reoliad presennol megis gweinyddu dibenion Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru.
Mae’n rhaid eich bod wedi rhoi caniatâd (cydsyniad) o’ch gwirfodd ac nad ydych wedi bod dan bwysau i wneud hynny. Mae’n rhaid bod hyn wedi ei wneud mewn modd eglur, ac mae’n rhaid eich bod yn ymwybodol o sut y caiff eich gwybodaeth ei thrin.
Rhoi gwybod ichi a chael eich cydsyniad
Os byddwn yn gofyn am eich caniatâd, cewch chi wybodaeth am hyn ar ffurf yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn. Bydd hyn yn egluro beth y mae gofyn ichi roi caniatâd ar ei gyfer. Bydd rhaid i PCGC brofi ei bod wedi rhoi gwybodaeth ichi, a’ch bod wedi llwyr ddeall beth roddoch chi ganiatâd ar ei gyfer.
Os gofynnir am ganiatâd, gallwch roi eich cydsyniad mewn sawl ffordd. Gallwch ei roi yn ysgrifenedig, trwy dicio blwch ar wefan, trwy ddewis opsiynau ar ap ffôn symudol, neu drwy unrhyw weithred arall sy’n dangos eich bod wedi derbyn y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio.
Beth am atal y defnydd o’r wybodaeth?
Er bod y seiliau cyfreithiol ar gyfer prosesu yn glir uchod, bydd PCGC yn ystyried cais am roi’r gorau i ddefnyddio a dderbynnir. Fodd bynnag, bydd PCGC yn storio gwybodaeth ond ni fydd yn ei defnyddio mwyach.
Fodd bynnag, byddwch yn cael gwybod am unrhyw newidiadau i sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio, gan gynnwys rhoi’r gorau i ddefnyddio’ch gwybodaeth, ar yr adeg y cymerir y penderfyniad, a hynny ni waeth pa adran neu wasanaeth sydd dan sylw. Bydd unrhyw gyfyngiad o ran dileu eich gwybodaeth yn cael ei ystyried fesul achos ond bydd ceisiadau am ddileu a/neu gywiriad yn cael eu hystyried.
Penderfyniadau a wneir yn awtomatig
Mae PCGC hefyd yn cymryd camau i atal y risgiau a all godi o gymryd penderfyniadau yn awtomatig:
Bydd hyn yn berthnasol i chi pan:
- fydd yn broses awtomatig ac
- fydd gan benderfyniad a wnaed â’ch gwybodaeth rym cyfreithiol.
Mae’n bosibl y bydd PCGC yn awtomeiddio rhai penderfyniadau â’ch gwybodaeth, ond fel arfer bydd rhywfaint o fewnbwn gan fod dynol wrth wneud hyn.
Fodd bynnag, bydd PCGC yn cymryd camau i nodi faint o benderfyniadau a wneir yn awtomatig ac i ystyried a yw’r rhain yn dderbyniol.
Bydd PCGC yn sicrhau bod unrhyw broffilio awtomatig yn deg ac yn gyfreithlon. Bydd PCGC yn defnyddio gweithdrefnau priodol, gan gynnwys cywiro gwallau lle bo data yn anghywir.
Gwneud cwyn
Os hoffech wneud cwyn ynghylch unrhyw broblemau sydd wedi codi mewn perthynas â’ch gwybodaeth, cysylltwch â:
Tim Knifton
Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth
Os ydych chi’n dal yn anfodlon yn dilyn eich cwyn, mae gennych yr hawl i wneud cwyn i:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif Ffôn: 0303 123 1113
Y cyfeiriad electronig ar gyfer cwynion trwy’r porth yw: https://ico.org.uk/make-a-complaint/
Dyma fanylion cyswllt dwyieithog yng Nghymru
0330 414 6421