Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau newydd i’r Cynlluniau Cymorth Gwaed Heintiedig
Bydd y pedwar Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig ledled y DU yn cau ar gyfer ceisiadau newydd ar 31 Mawrth 2025, fel rhan o’r trefniadau trawsnewidiol gyda’r Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig (IBCA).
Mae hyn yn berthnasol i geisiadau newydd yn unig. Bydd y cynlluniau’n parhau ar agor y tu hwnt i’r dyddiad hwn i’r rhai sydd eisoes wedi’u cofrestru. Bydd aelodau presennol y cynllun yn parhau i gael taliadau cymorth rheolaidd ac yn gallu cysylltu â’r cynlluniau fel arfer. Nid oes angen i chi weithredu.
Bydd cyfrifoldeb am daliadau cymorth yn trosglwyddo i’r IBCA yn y dyfodol, ar ddyddiad sydd eto i’w bennu – byddwn yn eich diweddaru unwaith y bydd hyn wedi’i gadarnhau.
Rydym yn gweithio gyda’r IBCA, Llywodraeth y DU a Gweinyddiaethau Datganoledig i wneud y trawsnewidiad hwn mor llyfn â phosibl.
Os nad ydych wedi cofrestru gyda chynllun cymorth eto ond yn credu eich bod yn gymwys, gweithredwch cyn gynted â phosibl a chyn 31 Mawrth 2025.
Os bydd aelod presennol o’r cynllun yn marw rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2025, bydd gan ei ystad dri mis o ddyddiad y farwolaeth i wneud cais am gyfandaliad.
Bydd partneriaid sy’n profi profedigaeth aelodau presennol y cynllun a fu farw rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2025 hefyd yn cael tri mis o ddyddiad y farwolaeth i wneud cais am daliadau cymorth.
Dylai ymgeiswyr newydd wneud cais i’r cynllun yn y DU lle cafodd yr unigolyn ei heintio. Os ydych chi’n bartner sy’n profi profedigaeth, dyma lle cafodd eich partner ei heintio.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar sut i wneud cais i Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru yma: wibss.wales.nhs.uk/apply/
Bydd pawb sydd wedi cofrestru gyda’r cynllun cymorth yn gymwys am iawndal drwy’r cynllun iawndal gwaed heintiedig, i’w ddarparu gan yr IBCA.
Agorodd ceisiadau am daliadau interim i ystadau ar 24 Hydref. Bydd y ceisiadau hyn yn cael eu prosesu gan y Cynlluniau Cymorth Gwaed Heintiedig.
Mae canllawiau ar sut i wneud cais, y meini prawf cymhwysedd a’r broses ymgeisio ar gael yn: www.gov.uk/infected-blood-compensation-estates
Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig (IBCA)
Eglurhad ar y goblygiadau o ran treth yn sgil y llog a enillir ar fuddsoddi taliadau, a’r camau sydd angen eu cymryd
Er 1988, mae llywodraethau olynol wedi sefydlu cynlluniau amrywiol i ddarparu cymorth ariannol i unigolion sydd wedi’u heintio â Hepatitis C, HIV neu’r ddau trwy driniaeth GIG â chynhyrchion gwaed halogedig. Y sefyllfa hirsefydlog fu y dylai taliadau ex gratia o’r fath gael eu heithrio rhag treth.
Yn dilyn cyflwyno cynlluniau newydd, cyflwynwyd deddfwriaeth yn 2017 i sicrhau bod taliadau cyfnodol i fuddiolwyr o’r cynlluniau hynny yn cael eu heithrio rhag treth incwm, yn yr un modd â thaliadau cyfnodol o gynlluniau presennol.
Mae’r eithriad yn ymestyn i’r taliadau cyfnodol neu flwydd-daliadau mewn perthynas â’r iawndal yn unig. Nid yw unrhyw elw o fuddsoddi’r symiau hynny wedi’i eithrio. Unwaith y bydd unrhyw arian a dderbynnir o iawndal wedi’i fuddsoddi bydd unrhyw log a dderbynnir ar y buddsoddiad hwnnw yn drethadwy yn y ffordd arferol a dylid ei ddatgan ar ffurflenni treth a hunanasesiadau. Dylid ceisio cyngor ariannol annibynnol fel y nodwyd yn flaenorol.
Diweddariad ar yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig
Mae cyhoeddiad arfaethedig Adroddiad Terfynol yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig wedi’i ohirio tan fis Mawrth 2024. Mae’r datganiad llawn ar gael ar-lein.
Stori newyddion Cyhoeddi Adroddiad yr Ymchwiliad
Cynllun Cefnogi Gwaed Heintiedig Cymru
Nod Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS) a sefydlwyd ym mis Hydref 2017, yw darparu cymorth i bobl sydd wedi cael eu heintio gyda Hepatitis C ac/neu HIV yn dilyn triniaeth gyda gwaed, cynhyrchion gwaed neu feinwe yng Nghymru.
Mae WIBSS wedi cymryd drosodd o gynlluniau blaenorol y DU (Ymddiriedolaeth Eileen, Ymddiriedolaeth Macfarlane, MFET Cyf, Cronfa Skipton a Sefydliad Caxton) gyda’r nod o ddarparu gwasanaeth taliadau ariannol syml, Gwasanaeth Cyngor ar Les a gwasanaeth Seicoleg a Lles i fuddiolwyr yng Nghymru a’u teuluoedd.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu Cyfarwyddiadau a Rheoliadau y mae WIBSS yn eu dilyn, gellir dod o hyd i’r holl ddiwygiadau Cyfarwyddiadau a Rheoliadau yma.
Mae Llywodraeth Cymru wedi hysbysu Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS) am y cyfraddau diwygiedig ar gyfer 2024-2025. Bydd y gyfradd hon yn berthnasol o 1 Ebrill 2024. I weld y cyfraddau diwygiedig, cliciwch yma.
Cliciwch ar y ddolen i gael mynediad i’r Adroddiad Arolwg Boddhad Cwsmeriaid cyfredol ar gyfer WIBSS.
ASTUDIAETH IAWNDAL GWAED HEINTIEDIG DATGANIAD PROSES
ASTUDIAETH IAWNDAL GWAED HEINTIEDIG
Y Diweddaraf ar Gydraddoldeb Ariannol
Ar 25 Mawrth, cyhoeddodd y Llywodraeth newidiadau i Gynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru. Mae’r newidiadau a gyhoeddwyd yn dileu rhai o’r gwahaniaethau rhwng y Cynlluniau Cynorthwyo Gwaed Heintiedig ledled y DU.
Diweddariad Cydraddoldeb Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS) 19 AWST 2021
Ar ôl derbyn y Cyfarwyddiadau Diwygiedig gan Lywodraeth Cymru, a ddaeth i rym ddydd Llun 16 Awst, mae WIBSS bellach wedi gweithredu’r cyfraddau diwygiedig a gyhoeddwyd yn y Cytundeb Cydraddoldeb ar 25 Mawrth. Mae hyn yn cynnwys taliadau ôl-ddyddiedig a ddylai fod yn eich cyfrif banc erbyn dydd Llun 23 Awst. Os nad ydych wedi ei dderbyn erbyn diwedd dydd Llun, rhowch wybod i ni.
Mae dolen i’r Cyfarwyddiadau diwygiedig yma – Cyfarwyddiadau Cynllun Gwaed Heintiedig Cymru (Diwygio) 2021 | LLYW.CYMRU