Os ydych chi’n derbyn unrhyw un o’r taliadau gan WIBSS a’ch bod chi’n cael triniaeth fel nad oes modd canfod eich Hepatitis C erbyn hyn, rydych chi’n dal yn gymwys i gael taliadau WIBSS ac felly, does dim angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw welliannau yn eich cyflwr.
Cam 1+ Uwch
O 2019, daeth Cynllun Taliad Uwch ar gyfer y buddiolwyr hynny sydd â Hepatitis C Cronig, sy’n profi problemau iechyd meddwl sylweddol, neu anhwylder straen wedi trawma (PTS) i rym.
Gofynnir i fuddiolwyr p’un a ydynt yn dioddef o unrhyw broblemau iechyd meddwl neu anhwylder straen wedi trawma; a ydynt yn teimlo bod y materion hyn yn gysylltiedig â’r ffaith iddynt gael eu heintio gyda gwaed halogedig neu gynhyrchion gwaed; ac a yw’r symptomau’n effeithio ar eu gallu i wneud gweithgareddau dydd i ddydd. Os ydynt, ni fydd angen asesiad pellach oherwydd bod y person eisoes wedi cael eu diagnosio gyda haint hepatitis C o waed heintiedig neu gynhyrchion gwaed, a dylech eisoes fod yn derbyn taliadau Hepatitis C Cam i.
Os hoffech wneud cais, cysylltwch â WIBSS i gael ffurflen gais, neu cliciwch yma. Os hoffech weld gwybodaeth am symiau talu, cliciwch yma.
Hepatitis C Cam II
Fel buddiolwr WIBSS cyfredol, os bydd dirywiad yn eich iechyd corfforol, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth Hepatitis C Cam II uwch os ydych yn dioddef o unrhyw un o’r canlynol, neu os ydych wedi dioddef o unrhyw un o’r canlynol:
- Sirosis yr afu
- Canser yr afu cynnar
- Lymffona nad yw’n Hodgkin sy’n effeithio ar gelloedd B
- Os ydych chi wedi cael trawsblaniad yr afu, neu ar y rhestr aros i dderbyn un
I dderbyn manylion am daliadau Cam II uwch, cliciwch ar yr adran cyllid a thalu.
I hawlio’r cyllid hwn, dylech lenwi’r ffurflen gais hepatitis C cam II uwch o dan y dudalen gais neu yma, a gallwch ddod o hyd i ganllawiau perthnasol yma.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich hadrannau o’r ffurflen, dylech drosglwyddo hyn i feddyg perthnasol, a fydd angen darparu rhywfaint o wybodaeth glinigol i gadarnhau bod gennych un o’r cyflyrau a nodir uchod. Gallai hyn fod yn arbenigwr clinigol Hepatitis C (naill ai’n hepatolegydd neu’n ymgynghorydd clefydau heintus) neu gallai fod yn ymgynghorydd arall os ydynt yn ymwneud â thrin eich salwch.
Unwaith y bydd WIBSS wedi ystyried eich ffurflen, os bydd yn cael ei gadarnhau eich bod chi’n gymwys i gael cymorth Hepatitis C uwch, byddwch yn derbyn eich cyfandaliad ychwanegol, a bydd eich taliad rheolaidd yn dechrau cyn gynted â phosibl. Bydd eich taliadau rheolaidd yn cael eu ôl-ddyddio i’r dyddiad y gwnaethoch gyflwyno’ch cais ar sail pro rata ar gyfer y flwyddyn ariannol.
Bydd WIBSS yn ceisio gwneud penderfyniad ar bob cais o fewn 25 diwrnod gwaith, er y gallai gymryd mwy o amser os bydd angen iddynt ofyn i chi neu’ch meddyg am unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Cysylltwch â WIBSS os oes gennych unrhyw ymholiadau; os nad ydych yn siŵr pa ffurflen i’w llenwi; neu os ydych chi eisiau cael help i lenwi’r ffurflenni. Os oes angen copi caled o’r ffurflen arnoch, cysylltwch â WIBSS, a bydd un yn cael ei hanfon atoch yn y post.