Taliadau Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru
At ddibenion cyfeirio, gweler y tabl isod am symiau taliadau Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru. Hefyd, sylwch nad oes angen ystyried unrhyw daliad a gewch gan Gynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru wrth gyfrifo’ch hawl i fudd-daliadau. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar yr arweiniad manwl yma.
Pwrpas y llythyr hwn yw darparu gwybodaeth am daliadau ex-gratia a chyfalaf cysylltiedig o Gynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS) a’r effaith ar asesiadau ariannol sy’n ymwneud â ffioedd gofal, edrychwch ar yr arweiniad manwl yma.
Eglurhad ar y goblygiadau o ran treth yn sgil y llog a enillir ar fuddsoddi taliadau, a’r camau sydd angen eu cymryd
Er 1988, mae llywodraethau olynol wedi sefydlu cynlluniau amrywiol i ddarparu cymorth ariannol i unigolion sydd wedi’u heintio â Hepatitis C, HIV neu’r ddau trwy driniaeth GIG â chynhyrchion gwaed halogedig. Y sefyllfa hirsefydlog fu y dylai taliadau ex gratia o’r fath gael eu heithrio rhag treth.
Yn dilyn cyflwyno cynlluniau newydd, cyflwynwyd deddfwriaeth yn 2017 i sicrhau bod taliadau cyfnodol i fuddiolwyr o’r cynlluniau hynny yn cael eu heithrio rhag treth incwm, yn yr un modd â thaliadau cyfnodol o gynlluniau presennol.
Mae’r eithriad yn ymestyn i’r taliadau cyfnodol neu flwydd-daliadau mewn perthynas â’r iawndal yn unig. Nid yw unrhyw elw o fuddsoddi’r symiau hynny wedi’i eithrio. Unwaith y bydd unrhyw arian a dderbynnir o iawndal wedi’i fuddsoddi bydd unrhyw log a dderbynnir ar y buddsoddiad hwnnw yn drethadwy yn y ffordd arferol a dylid ei ddatgan ar ffurflenni treth a hunanasesiadau. Dylid ceisio cyngor ariannol annibynnol fel y nodwyd yn flaenorol.
|
cyfandaliad cyn cydraddoldeb | cyfandaliad ar ôl cydraddoldeb 25/03/2021 | ||
Hep. C Cam 1 | £20,000 | £50,000 | ||
Cam 1 Uwch | – | – | ||
Hep. C Cam 2 | £50,000 | £70,000 | ||
HIV | £20,000 | £80,500 | ||
Cyd-heintiedig (HIV a Cham 1) | £20,000 + £20,000 | £80,500 + £50,000 gan wneud cyfandaliad o
£130,500 |
||
Cyd-heintiedig (HIV a Cham 1+ Uwch) | £20,000 | – | ||
Cyd-heintiedig (HIV a Cham 2) | £20,000 + £70,000 | £80,500 + £70,000 gan wneud cyfandaliad o
£150,500 |
Ar gyfer buddiolwyr sydd eisoes ar y cynllun WIBSS, byddwch wedi derbyn y gwahaniaeth mewn taliadau erbyn mis Awst 2021.
Taliadau Parhaus | 23/24 | Cyfradd ar 75% ar gyfer partneriaid/priod mewn profedigaeth | cyfraddau WIBSS cyfredol 24/25 | Cyfradd ar 75% ar gyfer partneriaid/priod mewn profedigaeth | ||
Hep. C Cam 1 |
£21,467
|
£16,100
|
£22,905
|
£17,179
|
||
Cam 1+ Uwch |
£32,555
|
£24,417
|
£34,736
|
£26,052
|
||
Hep. C cam 2 |
£32,555
|
£24,417
|
£34,736
|
£26,052
|
||
HIV | £32,555
|
£24,417
|
£34,736
|
£26,052
|
||
Cyd-heintiedig (HIV a Cham 1) | £44,189
|
£33,141
|
£47,150
|
£35,363
|
||
Cyd-heintiedig (HIV a Cham 2) | £51,162
|
£38,372
|
£54,590
|
£40,943
|
||
Cyd-heintiedig (HIV a Cham 1+) | £51,162
|
£38,372
|
£54,590
|
£40,943
|
||
Tanwydd Gaeaf | £618 | £618 | £659 | £659 |