Ymgeisio i’r cynllun
Dyma wybodaeth am bwy sydd yn gallu gwneud cais i WIBSS a sut i ymgeisio i’r cynllun am y tro cyntaf.
I fod yn gymwys, mae angen i chi fod wedi derbyn triniaeth/ wedi cael eich heintio yng Nghymru
Dyma wybodaeth am bwy sydd yn gallu gwneud cais i WIBSS a sut i ymgeisio i’r cynllun am y tro cyntaf.
I fod yn gymwys, mae angen i chi fod wedi derbyn triniaeth/ wedi cael eich heintio yng Nghymru
Pwy sy’n cael ymgeisio?
Os ydych chi’n ymgeisydd newydd sydd erioed wedi cael cymorth ariannol gan unrhyw gynllun yn y DU, a’ch bod chi’n credu eich bod chi wedi cael eich heintio â Hepatitis C a/neu HIV, o ganlyniad i gael triniaeth gan y GIG yng Nghymru gyda gwaed heintiedig, cynhyrchion gwaed neu feinwe yn y DU cyn mis Medi 1991, gwnewch gais cyn gynted â phosibl.
Mae unigolion sy’n gallu gwneud cais i’r cynllun yn cynnwys
- Pobl sydd wedi cael eu heintio â Hepatitis C Cronig – cam 1
- Pobl sydd wedi cael eu heintio â Hepatitis C – cam 2
- Pobl sydd wedi cael eu heintio â HIV
- Y rheini sydd wedi cael eu cyd-heintio â Hepatitis C a HIV
- Partneriaid/ gweddwon, gwŷr gweddw buddiolwr sydd wedi marw
- Ystâd unigolion a fu farw cyn ymuno â’r cynllun
Gallwch ymgeisio i’r cynllun hefyd os wnaethoch chi gontractio’r haint gan rywun sy’n disgyn i’r categorïau uchod, o dan un o’r amgylchiadau canlynol.
- Rydych chi, neu roeddech chi, yn briod neu’n bartner sifil i’r person y trosglwyddwyd y feirws ohono
- Rydych chi, neu roeddech chi, yn byw gyda’r person y trosglwyddwyd y feirws ohono fel partneriaid mewn perthynas hirdymor
- Rydych chi’n blentyn i fam sydd wedi’i heintio
Edrychwch ar y Meini Prawf Cymhwysedd Llawn – Ymgeiswyr Newydd, neu cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael help i ymgeisio i’r cynllun ar 02921 500900
Yn dibynnu ar eich cyflyrau iechyd, defnyddiwch y ffurflen berthnasol isod i wneud cais am y tro cyntaf, a darllenwch y nodiadau canllaw.
Ffurflen Hepatitis C Cronig Cam I
Os ydych chi’n aelod o deulu buddiolwr oedd wedi cael ei heintio â Hepatitis C a/neu HIV ond eu bod nhw wedi marw, neu os ydych chi’n rheoli ystâd rhywun a fu farw cyn eu bod nhw wedi gallu cofrestru gyda ni, yna cliciwch ar y tab Teuluoedd buddiolwyr sydd wedi marw ar y dudalen hafan.
Os hoffech apelio eto am benderfyniad, darllenwch y wybodaeth isod.
Os hoffech apelio eto am benderfyniad, darllenwch y wybodaeth isod.
Gallwch ystyried apelio os ydych chi’n teimlo nad oedd cyfiawnhad dros ein penderfyniad ynghylch y cais, yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarparwyd gennych.
Ni fyddwn yn ystyried apêl os ydych chi’n anghytuno â'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer WIBSS.
Ni allwch apelio yn erbyn y penderfyniad i ddyfarnu unrhyw grantiau yn ôl disgresiwn. Fodd bynnag, os ydych chi’n teimlo bod gwybodaeth wedi'i cholli ar eich cais, gallwch ffonio WIBSS yn uniongyrchol i drafod hyn.
Os hoffech apelio yn erbyn y penderfyniad, dylech anfon llythyr neu e-bost yn nodi pam yr hoffech apelio yn erbyn y penderfyniad o fewn 3 mis i'r dyddiad y derbyniwyd y llythyr penderfyniad. Gellir parhau i edrych ar apêl a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn mewn amgylchiadau eithriadol.
Yn y llythyr neu’r e-bost hwn, dylech gynnwys:
- Y rhesymau ynghylch pam rydych chi’n anghytuno â'r penderfyniad; ceisiwch gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl ynghylch pam rydych chi’n anghytuno.
- Os yw'n bosibl, dylech gynnwys mwy o dystiolaeth sy'n cynnwys y pwyntiau hyn.
- Ceisiwch gynnwys tystiolaeth feddygol na wnaethoch ei darparu o'r blaen.
Does dim rhaid i chi ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol, ond os oes unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol rydych chi’n teimlo sy'n berthnasol i'ch achos, yna dylech eu darparu.
Anfonwch lythyrau apêl naill ai drwy e-bost at WIBSS@wales.nhs.uk
Neu drwy'r post i:
WIBSS, Tŷ'r Cwmnïau, 4ydd Llawr, Ffordd y Goron, Caerdydd, CF14 3UB
Does dim rhaid i chi fynychu, ond os hoffech fynychu cyfarfod y panel i ddarparu tystiolaeth mewn person, yna gallwch wneud hynny. Rhowch wybod i ni os hoffech wneud hyn – ac, os felly, rhowch wybod i ni hefyd am unrhyw ofynion penodol sydd gennych, er enghraifft problemau symudedd, i sicrhau y gallant drefnu lleoliad addas ar gyfer y cyfarfod.
Os ydych chi’n dymuno, gallwch ddod ag un person gyda chi i gyfarfod y panel hefyd. Gallai hyn fod naill ai'n aelod o'r teulu, yn ffrind, yn ofalwr neu'n weithiwr cymorth.
Yng nghyfarfod y panel, byddwch yn cael cyfle i wneud datganiad os ydych chi’n dymuno, ac efallai y bydd aelodau'r panel yn gofyn rhywfaint o gwestiynau i chi hefyd. Os ydych chi’n cael anawsterau wrth gyfathrebu, gallwch ofyn i'r person rydych chi’n dod gyda chi i siarad ar eich rhan os ydynt yn eich adnabod yn dda ac yn deall manylion eich cais.
Rydym yn deall y gall hyn fod yn brofiad llawn straen ac yn brofiad emosiynol i'r rheini yr effeithir arnynt – bydd ymgeiswyr yn cael eu trin yn sensitif a gyda chwrteisi gan y panel bob amser, mewn awyrgylch mor anffurfiol â phosibl.