Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau newydd i’r Cynlluniau Cymorth Gwaed Heintiedig

Bydd y pedwar Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig ledled y DU yn cau ar gyfer ceisiadau newydd ar 31 Mawrth 2025, fel rhan o’r trefniadau trawsnewidiol gyda’r Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig (IBCA).

asol i geisiadau newydd yn unig. Bydd y cynlluniau’n parhau ar agor y tu hwnt i’r dyddiad hwn i’r rhai sydd eisoes wedi’u cofrestru. Bydd aelodau presennol y cynllun yn parhau i gael taliadau cymorth rheolaidd ac yn gallu cysylltu â’r cynlluniau fel arfer. Nid oes angen i chi weithredu.

Bydd cyfrifoldeb am daliadau cymorth yn trosglwyddo i’r IBCA yn y dyfodol, ar ddyddiad sydd eto i’w bennu – byddwn yn eich diweddaru unwaith y bydd hyn wedi’i gadarnhau.

Rydym yn gweithio gyda’r IBCA, Llywodraeth y DU a Gweinyddiaethau Datganoledig i wneud y trawsnewidiad hwn mor llyfn â phosibl.

Os nad ydych wedi cofrestru gyda chynllun cymorth eto ond yn credu eich bod yn gymwys, gweithredwch cyn gynted â phosibl a chyn 31 Mawrth 2025.

Os bydd aelod presennol o’r cynllun yn marw rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2025, bydd gan ei ystad dri mis o ddyddiad y farwolaeth i wneud cais am gyfandaliad.

Bydd partneriaid sy’n profi profedigaeth aelodau presennol y cynllun a fu farw rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2025 hefyd yn cael tri mis o ddyddiad y farwolaeth i wneud cais am daliadau cymorth.

Dylai ymgeiswyr newydd wneud cais i’r cynllun yn y DU lle cafodd yr unigolyn ei heintio. Os ydych chi’n bartner sy’n profi profedigaeth, dyma lle cafodd eich partner ei heintio.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar sut i wneud cais i Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru yma: wibss.wales.nhs.uk/apply/

 

Bydd pawb sydd wedi cofrestru gyda’r cynllun cymorth yn gymwys am iawndal drwy’r cynllun iawndal gwaed heintiedig, i’w ddarparu gan yr IBCA.

Bydd yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig (IBCA) yn darparu’r Cynllun Iawndal Gwaed Heintiedig, a fydd yn darparu iawndal ariannol i ddioddefwyr gwaed heintiedig ar draws y DU. Mae’r Cynllun yn ymateb i’r argymhellion a wnaed gan yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig yn ei ail adroddiad dros dro, a’r astudiaeth gynharach i iawndal gan Syr Robert Francis KC.

Am fwy o wybodaeth am yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig (IBCA)

https://www.gov.uk/government/organisations/infected-blood-compensation-authority

 

Ni all WIBSS ateb unrhyw gwestiynau ynghylch pecynnau iawndal sy’n gysylltiedig â’r IBCA. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr IBCA, gallwch gofrestru ar eu rhestr bostio ar eu gwefan neu ffonio 0141 7262397. Yr oriau agor yw 9am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau cyhoeddus). 

 

Ymchwiliad Gwaed Heintiedig

Cyhoeddwyd Adroddiad Terfynol yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig ar 20 Mai 2024. Mae’r adroddiad llawn ar gael ar-lein.

Diwrnod Cyhoeddi | Ymchwiliad Gwaed Heintiedig

 

Diweddariad 16th Awst 2024

Ar 16 Awst, cyhoeddodd y Llywodraeth ddiweddariadau i’r Cynllun Iawndal Gwaed Heintiedig. Mae hyn yn dilyn ymarfer ymgysylltu a gynhaliwyd gan Syr Robert Francis CB, Cadeirydd Dros Dro yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig – y corff a fydd yn gyfrifol am gyflawni’r Cynllun Iawndal Gwaed Heintiedig – gyda chynrychiolwyr o’r gymuned gwaed heintiedig. Mae rhagor o wybodaeth am y Cynllun Iawndal Gwaed Heintiedig ar gael yma (https://www.gov.uk/government/collections/infected-blood-compensation-scheme) (Saesneg yn unig).

Mae rhagor o wybodaeth am yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig ac adroddiad Syr Robert Francis ar gael yma (https://www.gov.uk/government/organisations/infected-blood-compensation-authority)(Saesneg yn unig).

Diweddariad 26th Gorffennaf 2024

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd ceisiadau am Daliadau Iawndal Dros Dro Gwaed Heintiedig i Ystadau yn agor ym mis Hydref. Bydd Llywodraeth y DU yn amlinellu gwybodaeth am y broses ymgeisio cyn i geisiadau agor. Os ydych yn chwilio am wybodaeth am y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y taliadau hyn, ewch i gov uk

Diweddariad – 20 Mai 2024

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi datblygu Cwestiynau Cyffredin cynhwysfawr ar eu gwefan i’ch cefnogi os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am faterion mewn perthynas â’r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig.Gallwch ddarllen mwy am y broses o roi gwaed, y profion a wneir a thrallwysiad gwaed trwy fynd i’r dudalen hon. Bydd yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd gyda’r wybodaeth a’r gefnogaeth ddiweddaraf.