Taliadau Profedigaeth
Yn achos marwolaeth buddiolwr sydd wedi’i heintio, rhoddir taliad profedigaeth untro o £10,000 i’r priod/partner sy’n ei oroesi, plant/plentyn dibynnol neu ystâd y buddiolwr ymadawedig, os nad oes priod/partner sy’n ei oroesi.
Priod/Partner Ymadawedig a Dibynyddion
Trosolwg
Yn achos marwolaeth buddiolwr, bydd Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS) yn parhau i dalu 100% o hawl y buddiolwr i’r priod neu’r partner sy’n goroesi’r buddiolwr, a hynny am flwyddyn. Telir y blynyddoedd dilynol ar gyfradd o 75% o hawl y buddiolwr. Bydd y taliadau hyn yn barhaus. Os nad oes priod/partner sy’n goroesi’r buddiolwr, gellir gwneud y taliad hwn i unrhyw blentyn/plant dibynnol.
Cyfrifir unrhyw hawl barhaus i daliad o ddyddiad marwolaeth y buddiolwr a gwneir taliadau pro rata, yn dibynnu ar a hysbysir WIBSS am farwolaeth y buddiolwr. Byddwch yn cael gwybod am eich amserlen dalu bersonol drwy lythyr unwaith y bydd wedi’i phrosesu gan ein tîm cyllid.
Os bydd buddiolwr WIBSS yn marw, gwneir y taliadau ex-gratia sy’n parhau i weddw gyfredol neu bartner sifil sy’n goroesi’r buddiolwr yn y lle cyntaf. Noder, telir y flwyddyn gyntaf ar gyfradd o 100% o hawl y buddiolwr, a thelir y blynyddoedd dilynol ar gyfradd o 75%.
I gymhwyso fel gweddw neu bartner sifil, rhaid i chi ddarparu ardystiad o’ch uniad cyfreithiol (e.e. tystysgrif priodas), a oedd yn dal i fod yn berthnasol i ddyddiad marwolaeth y buddiolwr.
Cysylltwch â WIBSS yma os ydych yn credu y gallai hyn fod yn berthnasol i chi, oherwydd gallwn gynnig cymorth pellach i chi mewn perthynas ag unrhyw ddogfennaeth ategol a sut i wneud cais am y taliadau hyn.
Os bydd buddiolwr WIBSS yn marw pan nad oes uniad cyfreithiol (e.e. priodas neu bartneriaeth sifil), gellir gwneud y taliadau ex-gratia sy’n parhau i bartner a oedd yn cyd-fyw â’r buddiolwr. Noder, telir y flwyddyn gyntaf ar gyfradd o 100% o hawl y buddiolwr, a thelir y blynyddoedd dilynol ar gyfradd o 75%.
I gael eich ystyried fel partner a oedd yn cyd-fyw â’r buddiolwr, rhaid i chi fod wedi bod yn byw gyda’r buddiolwr ar adeg y farwolaeth. Mae’n rhaid i chi allu dangos naill ai fil sydd wedi ei anfon at y ddau ohonoch chi neu gyfriflen banc sy’n profi’r statws hwn. Mae’n rhaid i’r rhain fod yn berthnasol i ddyddiad marwolaeth y buddiolwr.
Cysylltwch â WIBSS yma os ydych yn credu y gallai hyn fod yn berthnasol i chi, oherwydd gallwn gynnig cymorth pellach i chi mewn perthynas ag unrhyw ddogfennaeth ategol a sut i wneud cais am y taliadau hyn.
Os bydd buddiolwr WIBSS yn marw ac nid oes ganddo briod neu bartner sy’n ei oroesi ar adeg y farwolaeth, gellir gwneud y taliadau ex-gratia i blentyn/plant dibynnol. Noder, telir y flwyddyn gyntaf ar gyfradd o 100% o hawl y buddiolwr, a thelir y blynyddoedd dilynol ar gyfradd o 75%.
I fod yn blentyn dibynnol, rhaid i chi fod yn unigolyn o dan 18 mlwydd oed, neu o dan 21 mlwydd oed os ydych mewn addysg amser llawn, ar ddyddiad marwolaeth y buddiolwr. Yn ogystal, os oes mwy nag un plentyn dibynnol, gellir gwneud unrhyw daliad a dderbynnir i bob unigolyn cymwys mewn symiau cyfartal.
Cysylltwch â WIBSS yma os ydych yn credu y gallai hyn fod yn berthnasol i chi, oherwydd gallwn gynnig cymorth pellach i chi mewn perthynas ag unrhyw ddogfennaeth ategol a sut i wneud cais am y taliadau hyn.