Taliadau Profedigaeth

Yn achos marwolaeth buddiolwr sydd wedi’i heintio, rhoddir taliad profedigaeth untro o £10,000 i’r priod/partner sy’n ei oroesi, plant/plentyn dibynnol neu ystâd y buddiolwr ymadawedig, os nad oes priod/partner sy’n ei oroesi.

 

Priod/Partner Ymadawedig a Dibynyddion

Trosolwg

Yn achos marwolaeth buddiolwr, bydd Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS) yn parhau i dalu 100% o hawl y buddiolwr i’r priod neu’r partner sy’n goroesi’r buddiolwr, a hynny am flwyddyn. Telir y blynyddoedd dilynol ar gyfradd o 75% o hawl y buddiolwr.  Bydd y taliadau hyn yn barhaus. Os nad oes priod/partner sy’n goroesi’r buddiolwr, gellir gwneud y taliad hwn i unrhyw blentyn/plant dibynnol.

Cyfrifir unrhyw hawl barhaus i daliad o ddyddiad marwolaeth y buddiolwr a gwneir taliadau pro rata, yn dibynnu ar a hysbysir WIBSS am farwolaeth y buddiolwr. Byddwch yn cael gwybod am eich amserlen dalu bersonol drwy lythyr unwaith y bydd wedi’i phrosesu gan ein tîm cyllid.