Pan fydd buddiolwr Gwasanaeth Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru wedi marw, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn ddiwygio’n cofnodion a rhoi rhagor o gyngor i chi ar daliadau a chymorth parhaus. Gallwch ddysgu am y camau nesaf trwy gysylltu â ni fan hyn.

Taliadau

Sylwch, mae’n debygol y bydd angen i ni gael copi o’r dystysgrif farwolaeth i ddiweddaru ein manylion am y buddiolwr yn ffurfiol, ond gallwn ateb eich ymholiadau ar unrhyw adeg. Adeg marwolaeth buddiolwr, mae taliad profedigaeth o £10,000 ar gael i unigolion sy’n bodloni’r meini prawf isod:

  • Gweddwon, gwŷr gweddw, partneriaid sifil y buddiolwr sydd wedi marw.
  • Yn absenoldeb uniad cyfreithiol, mae partneriaid yn gallu gwneud cais. I gymhwyso’n bartner, mae’n rhaid eich bod yn byw gyda’r buddiolwr ar adeg ei farwolaeth. Rhaid i chi allu dangos naill ai fil ar y cyd neu gyfriflen cyfrif banc ar y cyd yn profi’r statws hwn, yn berthnasol ar ddyddiad marwolaeth y buddiolwr.
  • Lle nad oes priod, partner sifil neu bartner yn goroesi, gall taliadau yn dilyn marwolaeth buddiolwr gael eu gwneud i blant/blentyn dibynnol. I hawlio, rhaid eu bod naill ai o dan 18 oed (neu o dan 21 oed os ydynt mewn addysg amser llawn) ar adeg marwolaeth y buddiolwr. Bydd angen copi o dystysgrif geni pob plentyn dibynnol i ddangos perthynas rieniol y buddiolwr sydd wedi marw.

Sylwch, gall rhagor o gymorth ariannol a chymorth lles fod ar gael ar gyfer yr unigolion uchod; mae rhagor o wybodaeth i’w gweld yma