Os ydych chi'n ymgeisydd newydd nad yw erioed wedi derbyn cymorth gan unrhyw gynllun yn y DU a'ch bod yn credu eich bod wedi'ch heintio â Hepatitis C a/neu HIV, o ganlyniad i driniaeth â gwaed, cynhyrchion gwaed neu feinwe heintiedig gan y GIG yn y DU cyn mis Medi 1991, gwnewch gais cyn gynted â phosibl.
Yn ogystal, rydym hefyd yn croesawu ceisiadau os ydych chi’n cwrdd â’r meini prawf canlynol;
Pobl a ddaliodd yr haint gan rywun sy'n perthyn i'r grwp uchod, o dan un o'r amgylchiadau canlynol;
- Maent, neu roeddent, yn briod neu'n bartner sifil i'r unigolyn a wnaeth drosglwyddo’r feirws
- Maent, neu roeddent, yn byw gyda'r unigolyn a wnaeth drosglwyddo’r feirws fel partneriaid mewn perthynas hirdymor
- Maent yn blentyn i fam heintiedig
Darllenwch y Meini Prawf Llawn Ynghylch eich Hawl ar gyfer Hawlwyr Newydd neu cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Yn dibynnu ar eich cyflyrau iechyd, defnyddiwch y ffurflen berthnasol isod i wneud cais am y tro cyntaf
Os ydych chi'n rheoli ystâd rhywun a fu farw cyn y gallai gofrestru gyda ni, neu unrhyw un o gynlluniau blaenorol y DU, cysylltwch â'r cynllun yma i gael arweiniad ar y camau sy'n ofynnol er mwyn gwneud cais.
Yn ogystal, darllenwch y Meini Prawf Llawn ynghylch Hawl i Reoli Ystâd.
Os ydych chi'n wraig weddw, yn ŵr gweddw neu'n bartner i rywun a fu farw cyn y gallai gofrestru gyda ni, neu unrhyw un o gynlluniau blaenorol y DU, cysylltwch â'r cynllun yma i gael arweiniad ar y camau sy'n ofynnol er mwyn gwneud cais.
Sylwch; os oedd eich partner wedi'i gofrestru i dderbyn taliadau o'r blaen, ewch i’ch tudalen Aelodau Presennol bwrpasol.