Mae tîm seicoleg wedi cael ei sefydlu erbyn hyn, yn benodol ar gyfer y gwasanaeth. O fis Ionawr 2020, gall unigolion sydd wedi cofrestru gyda WIBSS ac aelodau o’u teuluoedd gael mynediad i asesiad a thriniaeth seicolegol yn ymwneud â’r anawsterau emosiynol o gael eu diagnosio gyda hepatitis C a/neu HIV ac o orfod byw gyda hyn. Mae’r tîm yn ymwybodol o’r cyd-destun hanesyddol, ac mae ganddynt brofiad o weithio gyda’r anawsterau emosiynol sydd wedi codi o ganlyniad i hynny. Un gobaith yw, drwy gynnig gwasanaeth seicoleg arbenigol, y bydd rhywfaint o gydnabyddiaeth o’r cymhlethdod corfforol a seicolegol, ac o’r effaith ar ansawdd bywyd a pherthnasoedd.

Yn dilyn atgyfeiriad i’r tîm seicoleg, bydd apwyntiad asesu yn cael ei gynnig, a fydd yn gyfle i drafod yr anawsterau emosiynol blaenorol a phresennol, ac i ystyried opsiynau ar gyfer triniaeth yn y dyfodol. Mae’r tîm seicoleg yn gallu cynnig sgwrs dros y ffôn cyn ac ar ôl yr atgyfeirio os oes unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch beth y dylid ei ddisgwyl yn dilyn asesiad a/neu driniaeth seicolegol.

Ffurflen Hunangyfeirio

Mae croeso i chi gysylltu â’r tîm ar 029 20196141, neu drwy e-bostio: wibss.wellbeingservice@wales.nhs.uk

Effaith Emosiynol yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig

O siarad â phobl sy’n defnyddio ein gwasanaeth, croesawyd yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig parhaus fel llwyfan i ddatgelu’r gwir a deall yr amgylchiadau sy’n ymwneud â danfon gwaed a chynhyrchion gwaed heintiedig.  Mae’r Ymchwiliad, fel ffocws i rai, wedi bod yn lle defnyddiol i ddod ynghyd i fynegi teimladau o golled, dicter a diymadferthedd (i enwi dim ond rhai). Mae hyn wedi’i waethygu gan drawma ac ymdeimlad cryf o anghyfiawnder wrth i bobl ail-fyw atgofion a phrofiadau anodd o’r gorffennol.

Rydym yn gwerthfawrogi bod yr awydd am gyfiawnder wedi bod yn obaith i lawer ac, yn realistig, efallai na fydd canlyniad yr Ymchwiliad yn bodloni disgwyliadau pawb.  Mae Gwasanaeth Seicoleg a Lles Chynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS), felly, yn ystyried pa agweddau o gefnogaeth y teimlwch y gallai fod eu hangen arnoch unwaith y daw’r Ymchwiliad i ben, a bydd cyfleoedd cymunedol, gyda’r rhai sy’n rhannu profiadau tebyg, yn lleihau.  Os hoffech siarad ag un o’r tîm am eich teimladau mewn perthynas â’r Ymholiad i Waed Heintiedig a’ch bod wedi cofrestru gyda Chynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru (neu’n aelod o deulu rhywun sydd wedi cofrestru gyda WIBSS) yna mae croeso i chi gysylltu â ni ar: 029 20196141, neu drwy e-bost: wibss.wellbeingservice@wales.nhs.uk

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwylio’r sesiwn dystiolaeth y bu Dr Coffey ynddi; mae ar gael ar wefan yr Ymchwiliad IBI Trawsgrifiad – Llundain – dydd Gwener 11 Tachwedd 2022 (Keith Carter a Chymorth Seicolegol Arbenigol) | Ymchwiliad i Waed Heintiedig

 

 

Dim yn siŵr os ydy hyn yn addas i chi? Darllenwch am brofiad pobl eraill sydd wedi cael cymorth.

 

Tysteb 1

Mae fy mhrofiad gyda’r rhaglen llesiant seicolegol wedi bod yn bositif iawn, a buaswn yn ei hargymell i unrhyw un sy’n dioddef pryder a straen o ganlyniad i dderbyn gwaed a chynhyrchion gwaed halogedig oherwydd esgeulustod. Nid yw’n ateb cyflym i rywun fel fi, ond mae wedi fy helpu i ddelio â rhywfaint o broblemau anodd, ac mae’n dal i fy helpu, ond mae golau ym mhen draw’r twnnel hir hwn.

 

Tysteb 2

Awgrymodd ffrind fy mod yn cysylltu â WIBSS, gan ei fod yn ymwybodol bod mynychu’r ymchwiliad cyhoeddus yng Nghaerdydd wedi effeithio ar fy iechyd. Roeddwn wedi rhoi cynnig ar gwnsela drwy’r gwaith, ond roeddwn yn teimlo ei fod yn cyfyngu ar fy amser h.y. chwe sesiwn, oedd ddim mor ddefnyddiol â hynny. Yn y pen draw, doeddwn i ddim yn gallu ymdopi gyda fy emosiynau, felly cysylltais â WIBSS, ac rwyf mor falch fy mod i wedi gwneud hynny. Erbyn hyn, rwy’n cael cymorth a chefnogaeth gan fy nghwnselydd,  sydd nid yn unig â llawer fawr o wybodaeth ynghylch y mater Gwaed Halogedig ond sydd hefyd, yn gwerthfawrogi’r ffaith ein bod ni wedi dioddef ers cryn amser ac y bydd felly,  yn cymryd amser i allu goresgyn yr anawsterau.  Mae’r cwnsela hwn wedi’i deilwra i weddu fy anghenion, a dwi ddim yn teimlo dan bwysau i wella’n gyflym. Rwyf wedi cymryd camau ymlaen a chamau bach yn ôl hefyd, ond rwy’n gwybod, er gwaethaf popeth, bod gennyf gefnogaeth ac anogaeth lawn fy nghwnselydd bob amser, sy’n rhoi’r cryfder i mi gario ‘mlaen. Mae pob sesiwn yn fy ngalluogi i deimlo’n fwy abl i ymdopi gyda fy mhroblemau. Mae COVID 19 wedi effeithio ar fy iechyd meddwl ond unwaith eto, mae’r cwnsela wedi cael ei deilwra i weddu fy anghenion presennol. Buaswn yn cynghori unrhyw un sy’n ystyried cael cwnsela i gysylltu â WIBSS. Mae’r cwnsela hwn mor wahanol  – mae’n ddefnyddiol, yn gefnogol ac yn gallu cael ei addasu i’r unigolyn.

 

 

Tysteb 3

Rwy’n berson normal, rwy’n byw bywyd normal, ond ydw i? Weithiau, dwi’n crio fy hun i gysgu a’n ei guddio, dwi yn y car ac mae’r dagrau’n dod o unman, pam ydw i’n teimlo mor drist ac ar fy mhen fy hun pan fod gen i gymaint o bobl,  ffrindiau a theulu o fy nghwmpas.

 

Nid yw wedi bod yn hawdd bob amser, nid dim ond y gwaed halogedig a’r problemau sy’n gysylltiedig â hyn, ond llawer o bethau eraill na ddylai person ymdopi â nhw, eu dioddef neu eu profi ond rwy’n berson cryf, a dwi’n gallu ymdopi, fi yw’r un mae pawb ei heisiau i’w helpu, ac yna, un diwrnod,  dwi ddim yn gallu, a dwi angen rhywun.

Nid yw’n hawdd cael help, ac nid yw’n hawdd gofyn am help.

Mae WIBSS yna, fe wnes i lenwi ffurflen ychydig flynyddoedd yn ôl i ddweud sut oeddwn i’n teimlo, a chefais help ganddynt. Mae dim ond cael rhywun i siarad â nhw am rywbeth yn help mawr.  Dwi ddim yn gwybod pam, ond mae’n wir – dwi’n edrych ymlaen at y galwadau, mae’n nhw’n fy helpu i, ac fe allant eich helpu chi hefyd.

 

Tysteb 4

“Cafodd y driniaeth a gefais ar gyfer hepatitis C effaith ddinistriol ar fy mywyd. Roeddwn yn teimlo bod siarad â’r cwnselydd yn help, a bod hyn wedi fy helpu i ddeall rhai o’r materion emosiynol a seicolegol dwi wedi bod yn delio â nhw. Yn benodol, mae siarad am rywfaint o’r problemau dwi wedi eu cael o ran fy mherthynas â fy nheulu a fy ffrindiau wedi fy ngalluogi i roi pethau mewn cyd-destun, ac wedi fy helpu i wella pethau. Mae siarad â rhywun y tu allan i fy nghylch wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Mae gwneud rhywfaint o ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar wedi fy helpu gyda fy mhroblemau cysgu hefyd.”

 

 

Tysteb 5

Mae’r gwasanaeth wedi bod yn helpu ein mab, sydd wedi bod yn cael trafferth gyda materion yn ymwneud ag iechyd ei dad, ac mae wedi dangos ffyrdd iddo o ymdopi gyda hyn a gyda phroblemau gorbryder eraill. Mae’r sesiynau’n ddefnyddiol iawn yn ei farn ef.

 

Tysteb 6

Fy enw i ydy Margaret ac mae’r tîm yn WIBSS wedi gofyn i mi ddweud ychydig o eiriau am y gwasanaeth llesiant a chymorth gwych maen nhw’n ei ddarparu i’r rhai hynny ohonom sy’n byw gyda’r cythrwfl emosiynol o waed a chynhyrchion gwaed halogedig.

Ffoniodd cwnselydd o dîm Seicoleg a Llesiant WIBSS fi un diwrnod yn ystod tymor y Gwanwyn 2017, yn gofyn a hoffwn ddod i’w gweld, a chytunais – er ychydig yn gyndyn.   Buom yn siarad am beth amser am yr hyn y gallwn ei ddisgwyl o gyfarfod o’r fath, ac roeddwn i’n teimlo’n falch fy mod i wedi gwneud y penderfyniad.  Roeddwn yn teimlo’n isel iawn yn emosiynol, a wir angen help.

Yn ein hapwyntiad cyntaf, roeddwn i mor bryderus fel fy mod yn teimlo fel cerdded allan a pheidio mynd nôl, roedd y syniad o siarad am fy nheimladau i ddieithryn llwyr yn fy nychryn, roeddwn i’n teimlo’n sâl i fy stumog.    Oherwydd natur broffesiynol a sensitif y cwnselydd, ymlaciais digon i aros ychydig yn hirach a chlywed beth oedd ganddi i’w ddweud.    Yn ddiweddarach, dechreuais feddwl efallai y gallai hyn fy helpu i wella petaswn yn dal ati.

Mae llawer o bethau da a drwg wedi digwydd ar hyd y ffordd – dwi wedi crio yn ystod ein sesiynau cwnsela, wedi mynd yn ymosodol, wedi gweiddi mewn dicter a rhwystredigaeth ac wedi dadlau a phwdu; dwi wedi dangos bron bob emosiwn negyddol, hunanddinistriol dwi’n dioddef ohonynt.

Drwy’r cyfan, mae’r cwnselydd wedi aros yr un fath, ac wedi rhoi sicrwydd gofal i mi – rhywbeth roeddwn wedi teimlo fy hun yn annheilwng ohono ar ôl blynyddoedd o ddioddef agweddau beirniadol, creulon gan lawer o’r rheiny oedd ynghlwm yn fy materion iechyd cyn, ac ar ôl, i mi gael fy niagnosio gyda Hepatitis.

Ar ôl cyfarfodydd ffôn rheolaidd gyda’r cwnselydd (gan fy mod yn byw yng Nghernyw), yn araf, rwy’n dechrau deall rhywfaint o’r difrod seicolegol sydd wedi cael ei achosi gan fy haint h.y.  ei fod allan o fy rheolaeth ac nid fy mai i oedd o, ac mae hynny’n gam enfawr ymlaen.

Mae’r cwnselydd yn gweithio gyda mi i geisio fy nghael i dderbyn y pethau dwi ddim yn gallu eu newid, ac i addasu fy ffordd o feddwl i fyw gyda’r digwyddiadau niweidiol yn y gorffennol a’u rheoli’n ddigon llwyddiannus i fedru mwynhau ffordd fwy dibynadwy o fyw.   Efallai fod hynny’n swnio fel siarad seico i ni’r bobl leyg, yn enwedig gan fod ein poen wedi cael ei esgeuluso am gymaint o amser efallai, fel y collais ffydd unwaith mewn cael unrhyw gymorth onest ac adeiladol, ond mae gwasanaeth llesiant WIBSS yn gallu llwyddo, a gallaf ei argymell yn bersonol, a dweud y gallai wneud yr un peth i unrhyw un ohonoch chi.

 

Mae gen i ffordd hir o fy mlaen ond fel tysteb i’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni hyd yn hyn, gallaf siarad yn haws am fy mrwydr, a byddaf yn ddiolchgar i WIBSS am byth am sefydlu eu gwasanaeth llesiant/cymorth.

Crynodeb byr o fy mywyd gyda Hepatitis C

Yn 2013, ar ôl symud o Gymru i Gernyw, cefais alwad gan fy nghlinig meddyg teulu lleol i ddod i mewn i drafod canlyniadau prawf gwaed rwtîn oedd wedi cael ei wneud ychydig ddyddiau’n gynharach.  Roedd gen i ymweliad wedi’i drefnu ymlaen llaw i siarad am fy iselder cynyddol ac am bethau bach eraill, felly cafodd hyn ei wneud ar yr un pryd.

Yn bennaf oll, cefais fy holi am faint o alcohol roeddwn i’n yfed, ac awgrymwyd ei fod o bosibl wedi achosi sirosis yr afu.  Roedd angen profion pellach arnaf, a byddai ymgynghoriad ag arbenigwr yr afu yn cael ei drefnu. Yna, fel ôl-ystyriaeth, gofynnodd beth oedd y rheswm gwreiddiol pam y gofynnais i gael ei gweld.  Roeddwn wedi fy syfrdanu’n llwyr, a dechreuais grio llond fy mol – bron ddim yn gallu cymryd y cyfan i mewn neu siarad.   Fe wnes i fwmblan rhywbeth am fy iselder, a’r ymateb a gefais oedd ei fod yn llawer haws i’w drin na phroblem yr afu.  Fe’m cynghorodd yn gryf i dorri’n ôl ar alcohol neu os yw’n bosibl, rhoi’r gorau iddo’n gyfan gwbl, a dyna ni…..

Roedd fy ngŵr yn flin iawn ac yn amheus o’r diagnosis.  Roedd eisiau i’r ddau ohonom fynd i weld y Doctor eto ar unwaith i gwyno am y ffordd roedd hyn wedi cael ei drin, ond nid oedd unrhyw ffordd y gallwn fyth ei hwynebu eto.  Ar wahân i fod ofn y posibilrwydd o gael clefyd yr afu, roeddwn yn teimlo cywilydd fy mod i efallai wedi achosi’r sirosis drwy yfed gormod o win coch – doeddwn i’n methu stopio crio.

Yn y pen draw, cefais fy niagnosio gyda Hep C.  Er nad oeddwn erioed wedi clywed amdano o’r blaen, roeddwn yn falch dros ben nad Sirosis  oedd o.  Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, fe wnes i gyfarfod gydag ymgynghorydd yr iau a gododd ofn arnaf ar unwaith – roedd yn fwli braidd.  Ni eglurodd unrhyw beth am fy nghyflwr, fe wnaeth fy holi’n ymosodol am faint o alcohol roeddwn i’n yfed, fe wnaeth archwiliad cyflym, fy nghynghori i ddechrau triniaeth o fewn chwe mis ac i fi a fy nheulu gael prawf HIV, a dyna ni.  Doeddwn i ddim callach, ac mewn darnau.

Diolch byth, llwyddais i ddod o hyd i Hep C Trust, Llundain ar-lein, ffoniais nhw ar unwaith a thrwy fy nagrau, fe wnes i ddweud fy stori wrthyn nhw.   Roeddent yn wych, ond yn anffodus, bu’n rhaid iddynt roi gwybod i mi am yr ymchwil i waed halogedig ac mai’r rheswm dros fy haint oedd oherwydd fy mod i wedi cael nifer o drallwysiadau gwaed yn y saithdegau ar ôl cael damwain ffordd ddifrifol.     Doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth, roeddwn wedi bod yn y system ysbytai ers dros ddeugain mlynedd, a doedd neb erioed wedi sôn am y risgiau sy’n gysylltiedig â’r trallwysiadau, nac wedi gwirio am heintiau yn nes ymlaen.    Roedd yn ergyd enfawr, ac yn un y bydd gyda mi am byth.

Ar wahân i’r cyfarfod cyntaf gyda fy nyrs Hep, nid oedd sôn pellach am achos fy firws, roedd fel pe bai heb ddigwydd neu nad oedd ots fy mod i mewn darnau.

Am y tair blynedd nesaf, roeddwn ar/oddi ar driniaeth erchyll, ac yn dioddef o drawma corfforol a meddyliol eithafol.

Yn 2016. ar ôl i’r feirws glirio ac ar ôl i mi yr ymweliadau i’r ysbyty o’r diwedd – cyrhaeddais argyfwng emosiynol difrifol.  Dechreuais ddioddef o gryniadau corfforol, cyfog a dicter, roedd fy meddwl yn llawn lleisiau negyddol drwy’r amser, a phan roeddwn yn gallu cael ychydig oriau o gwsg, roedd hunnllefau ofnadwy yn fy neffro.  Collais fy archwaeth, ac roedd gen i ofn gadael fy nghartref neu ateb y ffôn.  Cysylltais â’r GIG o’r diwedd i gael help ac ar ôl misoedd lawer o aros, cefais ychydig o apwyntiadau gyda chwnselydd nad oedd wedi helpu rhyw lawer, gan nad oedd hi erioed wedi clywed am y sgandal Gwaed halogedig.  Roedd popeth yn anobeithiol, a doeddwn i ddim yn gallu gweld ffordd ymlaen.

Am ychydig fisoedd eto, fe wnes i suddo ymhellach i mewn i le du gan obeithio weithiau, na fuaswn byth yn deffro, doedd dim ar ôl i mi.      Roeddwn i’n anghywir, fe roddodd un alwad ffôn gan dîm llesiant WIBSS y gobaith a’r cryfder roeddwn i ei angen i ddewis troi fy mywyd o gwmpas gyda’u cefnogaeth lwyr.

 

Diolch byth, maen nhw yna i bob un ohonom.

 

 

Tysteb 7

Penderfynais ddefnyddio’r Gwasanaeth Llesiant yn WIBBS am y tro cyntaf tua blwyddyn yn ôl. Dwi wedi elwa’n aruthrol o’r gwasanaeth hwn, ac wedi croesawu’r gefnogaeth a’r sicrwydd dwi wedi’u cael yn ystod y deuddeg mis diwethaf. Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i bob un ohonom, yn arbennig os ydych chi wedi bod yn teimlo’n ynysig yn eich cartref eich hun. Ar ben hyn, mae gwrandawiadau’r Ymchwiliad Annibynnol i Waed a Chynhyrchion Gwaed Halogedig wedi cael eu cynnal, a allai fod wedi tynnu llawer ohonom yn ôl i gyfnodau trawmatig a thorcalonnus iawn yn ail-greu atgofion anodd.

Mae’r gwasanaeth Llesiant wedi darparu cymorth a rhwyd ddiogelwch i mi, ac wedi rhoi’r gefnogaeth dwi wedi bod ei hangen ers amser maith. Trueni nad oedd y gwasanaeth hwn wedi bod ar gael ddeng mlynedd ar hugain yn ôl pan gollais fy Ngŵr i AIDS.

Buaswn yn annog unrhyw un i ddefnyddio’r gwasanaeth cyfrinachol hwn. Defnyddiwch ef, a pheidiwch â dioddef ar eich pen eich hun.  Mae help ar gael i chi.

 

 

Tysteb 8

Dwi wedi bod yn gweithio gyda chwnselydd o WIBSS ers ymhell dros 18 mis bellach, i fy helpu i ddod i delerau â chael trallwysiad gwaed halogedig nôl ym 1990, er na chefais fy niagnosio tan 2017. Ers gweithio gyda’r cwnselydd i fy helpu i ddeall a dod i delerau â fy niagnosis o Hep C, rwy’n teimlo fy mod i bellach yn symud ymlaen gyda fy mywyd, rwy’n teimlo bod dyfodol i mi o’r diwedd. Mae fy ngorbryder dan reolaeth (dwi erioed wedi dioddef ohono o’r blaen), dwi wedi cael swydd newydd a dwi bellach yn edrych ar yrfa newydd. Doeddwn i byth yn meddwl y byddai hyn yn bosibl. Mae’r cwnselydd yn berson mor ofalgar, ystyriol ac empathetig, sydd bob amser yn rhoi anghenion ei  chleientiaid yn gyntaf ym mhob sesiwn, ac mae hi’n fy helpu i ddod o hyd i’r dull mwyaf realistig i mi. Heb y cwnselydd, dwi wir yn teimlo y buaswn yn dal i eistedd yn fy ystafell wely yn cuddio oddi wrth y byd. Ni allaf ddiolch digon iddi.

 

 

Tysteb 9

Ar ôl cael fy nghyfeirio at dîm WIBSS, aeth tîm defnyddiol a rhagweithiol iawn i’r afael â fy mhryderon cychwynnol; Cefais wybod am newidiadau’n rheolaidd, ac roedd y staff bob amser yn help mawr pan roeddwn yn cysylltu â nhw.

 

Cefais y cwnsela oedd yn cael ei gynnig gan WIBSS o bosib ar bwynt isaf fy mywyd. Roeddwn yn eithaf nerfus ac yn ansicr ynghylch beth y gallai’r broses gwnsela ei chynnig i mi, a sut y buasai’n fy helpu i wella fy iechyd meddwl pan ddechreuais y broses hon am y tro cyntaf.

 

Ni allaf ddiolch digon i fy nghwnselydd, gan fy mod wedi cael fy arwain ar y daith hon mewn ffordd garedig, ddeallus a chefnogol.  Dwi wedi teimlo bob amser fy mod yn cael cefnogaeth lawn.  Mae wedi bod yn gyfnod anodd a phoenus iawn, a dwi’n ddiolchgar am y cymorth sydd ar gael gan y gwasanaeth WIBSS.  Efallai nad dyma ddiwedd fy nhaith, ond dwi’n teimlo ei fod yn sicr wedi fy helpu i ddechrau dod i delerau â’r sefyllfa, a difrifoldeb yr hyn sydd wedi digwydd.

 

COVID-19 (CORONAFEIRWS)

Mae COVID-19 (coronafeirws) yn ofid i ni gyd, a gall effeithio’n andwyol ar eich lles seicolegol ac emosiynol. Gan fod angen i bawb ynysu eu hunain, mae’n bwysig iawn gofalu amdanoch chi eich hun, gan fod ceisio sicrhau lles meddyliol da yr un mor hanfodol â sicrhau lles corfforol da.  Rydym wedi atodi rhywfaint o adnoddau yma a allai eich helpu yn ystod y cyfnod anodd hwn.  Rydym yn dal i allu darparu gwasanaeth cwnsela dros y ffôn; Os hoffech gael cymorth, llenwch y ffurflen atgyfeirio ar-lein a’i hebostio at wibss.wellbeingservice@wales.nhs.uk.

Mae rhai cysylltiadau isod a allai fod o gymorth i chi.

 

Mae Ap Ymwybyddiaeth Ofalgar Felindre

 

Mae Ap ACTcompanion

 

Sut I Ymateb Yn Effeithiol I’r Argyfwng Corona