Yma yng Nghynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru, rydym ni’n cydnabod y gall eich anghenion fel aelod o’r gwasanaeth fynd y tu hwnt i gymorth ariannol. O’r herwydd, bydd eich ymgynghorydd sydd wedi ei hyfforddi’n arbennig yn gallu’ch helpu mewn nifer o feysydd pwysig, lle nad ydych chi o bosibl wedi cael cymorth o’r blaen.
Mae’r gwasanaeth holistaidd yr ydym ni’n ei gynnig yn bwrpasol ichi a’ch teulu. Gall gynnwys atgyfeiriadau a chyfeirio pobl at ddarparwyr eraill a argymhellir – ond y peth pwysicaf yw ei fod wedi ei ddylunio i ddiwallu eich anghenion chi. Er nad yw’r rhestr isod yn gynhwysfawr, dyma restr o’r gwasanaethau y gallwn ni eu cynnig ichi. Cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach (link to internal contact)
- Cymorth gyda materion ymarferol megis gwneud cais am fathodyn parcio (Bathodyn Glas), teithio am ddim ar fysiau a gostyngiadau, ynghyd â chymorth gyda chostau angladd os ydych chi’n ennill incwm isel.
- Cymorth gyda chwblhau ffurflenni, gwaith papur a cheisiadau
- Dod o hyd i wasanaethau iechyd, megis cymorth gydag anghenion gofal ychwanegol a chludiant gofal iechyd
- Atgyfeiriadau ar gyfer cefnogaeth emosiynol, cyngor am grwpiau cymorth a defnyddio’ch gwasanaethau lleol
Cymorth i Ffrindiau a’r Teulu
Rydym ni’n cydnabod bod eich iechyd nid yn unig yn effeithio arnoch chi, ond ei fod hefyd yn effeithio’n fawr ar y rhai sy’n gofalu amdanoch chi a’r rhai sy’n agos atoch chi. O’r herwydd, bydd eich ymgynghorydd o Gynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru yn gallu gwirio amgylchiadau’ch gofalwr neu deulu agos a’u hawl i fudd-daliadau a allai wella’ch sefyllfa ariannol yn gyffredinol, ynghyd ag unrhyw ofynion ychwanegol am gymorth.
Cymorth Allanol
Mae nifer o ddarparwyr sy’n gallu cynnig cymorth arbenigol, ac efallai eich bod eisoes yn eu defnyddio. Dewch o hyd iddynt isod.
- I gael canllaw cyfredol ar hawlio Taliad Annibyniaeth Personol i’r rhai sydd wedi’u heintio ag anhwylder gwaedu, ewch i dudalen budd-daliadau Haemophilia Society UK
- Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch gysylltu ag Age UK i gael cyngor ar arian a budd-daliadau. Ffoniwch linell gymorth Age UK: 0800 169 6565 neu ewch i’r wefan
- Cyngor ar Bopeth; mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor cyfrinachol, diduedd ac annibynnol, yn rhad ac am ddim, ar ddyledion, drwy ei wasanaeth gwesgwrsio, dros y ffôn ac yn bersonol.
- Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn cynnig cyngor cynhwysfawr diduedd, yn rhad ac am ddim, ar arian. Gallwch gael atynt ar-lein yma neu dros y ffôn ar 0800 138 7777
- Mae Which yn rhoi cyngor cyffredinol ar arian drwy ei wefan, ei gylchgrawn, ei linell gymorth ar arian a’i wasanaeth cyfreithiol.
- Mae’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau yn rhoi arweiniad am ddim ar bob mater yn ymwneud â phensiynau. Hefyd, mae’n helpu gyda phroblemau, cwynion neu anghydfodau posibl sydd gennych gyda’ch gweithle neu’ch trefniant pensiwn preifat. Mae arbenigwyr ar bensiynau yn ateb ei linell gymorth (0300 1231047).
- Elusen ar ddyledion, StepChange; mae StepChange Debt Remedy yn rhoi cyngor arbenigol, cymorth â chyllideb ac atebion i’ch helpu i reoli eich dyledion.
- Y Llinell Ddyled Genedlaethol; mae’r Llinell Ddyled Genedlaethol yn cynnig cyngor ar-lein am ddim ar ddyledion trwy ei adnodd ‘My Money Steps’ a’i ganllawiau, taflenni ffeithiau a llythyron enghreifftiol ar y we.
- Cyngor ar Bopeth; mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor cyfrinachol, diduedd ac annibynnol, yn rhad ac am ddim, ar ddyledion, drwy ei wasanaeth gwesgwrsio, dros y ffôn ac yn bersonol.
- Haemophilia UK yw unig elusen y Deyrnas Unedig gyfan ar gyfer pawb sydd wedi’u heffeithio gan anhwylder gwaedu: mae’n gymuned o aelodau, cefnogwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
- Mae Haemophilia Wales yn rhoi gwybodaeth, cymorth ac eiriolaeth i bawb sydd â Haemoffilia, clefyd Von Willebrands ac anhwylderau gwaedu eraill, gan gynnwys eu teuluoedd a’u gofalwyr.
- Y Fenni
Ysbyty Nevill Hall
Brecon Road
Y Fenni
Sir Fynwy
NP7 7EG
Ffôn; 01873 732 372
Mewn argyfwng / Tu allan i oriau; 01873 732 732 – Gofynnwch am yr haematolegydd ar ddyletswydd
- Bangor
Uned Alaw
Ysbyty Gwynedd
Penrhosgarnedd
Bangor
Gogledd Cymru
LL57 2PW
Ffôn; 01248 384 008
Mewn argyfwng / Tu allan i oriau; 01248 384 384 – Gofynnwch am yr haematolegydd ar ddyletswydd
- Caerdydd
Canolfan Gofal Cynhwysfawr Arthur Bloom
Ysbyty Athrofaol Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW
Ffôn; 02920 743 403
Mewn argyfwng / Tu allan i oriau; 02920 747 747 – Gofynnwch am yr Haematolegydd Ymgynghorol ar ddyletswydd
- Abertawe
Canolfan Haemoffilia Abertawe
Ysbyty Singleton
Sgeti
Abertawe
SA2 8QA
Ffôn; 01792 200 368
Mewn argyfwng / Tu allan i oriau; Oedolion: 01792 285 332, Ward 12 Paediatrig: 01792 702 222 est. 5678
I chwilio cronfa ddata o bob ffynhonnell bosibl arall o gymorth gallech chi fod yn gymwys i’w cael, defnyddiwch yr adnodd ar-lein ar gyfer chwilio am grantiau, Turn2us.
Os ydych chi’n teithio, gallai’r rhestr fyd-eang o ganolfannau triniaeth fod yn ddefnyddiol i chi ar gyfer cynllunio cyn eich taith. Mae ar gael ar wefan y World Federation of Hemophilia