Dewch o hyd i Gylchlythyrau’r gorffennol isod

CYLCGYTHYR Ebrill 2024

CYLCGYTHYR Rhagfyr 2023

CYLCHYTHYR Medi 2023

CYLCHYTHYR Ebrill 2023

CYLCHYTHYR Rhagfyr 2022

CYLCHYTHYR Medi 2022

CYLCHLYTHYR  Ebrill 2022

CYCHLYTHYR Tachwedd 2021

CYLCHLYTHYR Ebrill 2020

CYLCHLYTHYR Awst 2019

 

WIBSS Adroddiad Blynyddo

 

WIBSS Adroddiad Blynyddol 2020/2021

WIBSS Adroddiad Blynyddol 2021/2022

 

Mae cyhoeddiad arfaethedig Adroddiad Terfynol yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig wedi'i ohirio tan fis Mawrth 2024. Mae'r datganiad llawn ar gael ar-lein. Stori newyddion Cyhoeddi Adroddiad yr Ymchwiliad

 

TEITL

Cyflwyno taliadau plant o dan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru
DYDDIAD 06 Rhagfyr 2022
GAN Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Rwy’n falch o roi gwybod i’r aelodau am gymorth ychwanegol i bobl sydd wedi’u heintio â Hepatitis C a/neu HIV drwy waed neu gynhyrchion gwaed halogedig. Mae’r effaith sylweddol ar eu bywydau, a’u teuluoedd, wedi cael ei thrafod yn helaeth yn y Senedd.

Rwyf wedi cytuno i gyflwyno “taliad plentyn” sy’n adeiladu ar y cyn-taliadau ex-gratia a wneir ar hyn o bryd o dan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS) ar ein rhan. Bydd y taliad hwn yn cael ei dalu’n flynyddol, o fis Ionawr 2023, ar y gyfradd o £3,000 ar gyfer plentyn cyntaf a £1,200 am yr ail a phob plentyn dilynol.

Bwriedir y taliad ar gyfer gofal a chymorth plentyn/plant, sydd naill ai’n blentyn biolegol neu’n rhan o aelwyd buddiolwr heintiedig - gall hyn fod yn blentyn/plant mabwysiedig neu blentyn/plant partner buddiolwr heintiedig y maent yn byw gydag ef. Gall y taliad gael ei hawlio gan y buddiolwr heintiedig, buddiolwr mewn profedigaeth neu brif ddarparwr gofal plentyn/plant buddiolwr heintiedig (hynny yw rhywun nad yw’n fuddiolwr ond sy’n gyfrifol am gymorth plentyn/plant buddiolwr heintiedig y maent yn gofalu amdano).

Bydd y taliad yn parhau nes y bydd argymhellion yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn hysbys, ac wedi’u hystyried gan bedair adran iechyd y DU.

Bydd WIBSS yn ysgrifennu at yr holl fuddiolwyr gyda manylion y meini prawf cymhwysedd a’r broses ymgeisio.

 

CANLYNIADAU AROLWG BODDHAD CWSMERIAID

 

COVID-19

Gallai’r gwasanaethau sydd yn cael eu darparu gan WIBSS gael eu heffeithio gan Coronafeirws. Byddwn yn amlwg yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod taliadau rheolaidd yn parhau i gael eu talu i chi; ein bod yn darparu cyngor a chymorth o hyd; a bod y gwsanaeth yn cael ei darfu cyn lleied â phosibl.  Gofynnwn yn garedig i chi fod yn amyneddgar yn ystod yr amgylchiadau eithriadol hyn.

Yn ystod y pandemig presennol, rydym yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru ac mae nifer o’n staff yn gweithio o gartref. Os na fydd eich galwad yn cael ei hateb ar unwaith, gadewch neges gyda’ch enw a’ch rhif cyswllt, a byddwn yn cysylltu â chi’n brydlon.

Gallwch gysylltu â Rheolwr WIBSS hefyd, sef Mary Swiffen-Walker ar 07970 601561 yn ystod oriau swyddfa.

I gael cyngor a chanllawiau ar y feirws, cliciwch ar y dolenni isod –

https://phw.nhs.wales/topics/latest-information-on-novel-coronavirus-covid-19/

https://www.gov.uk/government/topical-events/coronavirus-covid-19-uk-government-response

Coronavirus (COVID-19) | Topic | GOV.WALES

https://www.bhiva.org/SARS-CoV-2-vaccine-advice-for-adults-living-with-HIV-plain-english-version

https://britishlivertrust.org.uk/update-for-people-with-liver-disease-on-the-covid-19-vaccine/

https://phw.nhs.wales/topics/immunisation-and-vaccines/covid-19-vaccination-information/