Yma yng Nghynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru, rydym ni’n cydnabod y gall eich anghenion fel aelod o’r gwasanaeth fynd y tu hwnt i gymorth ariannol. O’r herwydd, bydd eich ymgynghorydd sydd wedi ei hyfforddi’n arbennig yn gallu’ch helpu mewn nifer o feysydd pwysig, lle nad ydych chi o bosibl wedi cael cymorth o’r blaen.

Mae’r gwasanaeth holistaidd yr ydym ni’n ei gynnig yn bwrpasol ichi a’ch teulu. Gall gynnwys atgyfeiriadau a chyfeirio pobl at ddarparwyr eraill a argymhellir – ond y peth pwysicaf yw ei fod wedi ei ddylunio i ddiwallu eich anghenion chi. Er nad yw’r rhestr isod yn gynhwysfawr, dyma restr o’r gwasanaethau y gallwn ni eu cynnig ichi. Cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach (link to internal contact)

  • Cymorth gyda materion ymarferol megis gwneud cais am fathodyn parcio (Bathodyn Glas), teithio am ddim ar fysiau a gostyngiadau, ynghyd â chymorth gyda chostau angladd os ydych chi’n ennill incwm isel.
  • Cymorth gyda chwblhau ffurflenni, gwaith papur a cheisiadau
  • Dod o hyd i wasanaethau iechyd, megis cymorth gydag anghenion gofal ychwanegol a chludiant gofal iechyd
  • Atgyfeiriadau ar gyfer cefnogaeth emosiynol, cyngor am grwpiau cymorth a defnyddio’ch gwasanaethau lleol

 

Cymorth i Ffrindiau a’r Teulu

Rydym ni’n cydnabod bod eich iechyd nid yn unig yn effeithio arnoch chi, ond ei fod hefyd yn effeithio’n fawr ar y rhai sy’n gofalu amdanoch chi a’r rhai sy’n agos atoch chi. O’r herwydd, bydd eich ymgynghorydd o Gynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru yn gallu gwirio amgylchiadau’ch gofalwr neu deulu agos a’u hawl i fudd-daliadau a allai wella’ch sefyllfa ariannol yn gyffredinol, ynghyd ag unrhyw ofynion ychwanegol am gymorth.


Cymorth Allanol

Mae nifer o ddarparwyr sy’n gallu cynnig cymorth arbenigol, ac efallai eich bod eisoes yn eu defnyddio. Dewch o hyd iddynt isod.