Os hoffech gysylltu â Chynllun Cefnogi Gwaed Heintiedig Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt a restrir isod, neu edrychwch ar ein tudalennau sy’n rhoi cyfle i chi ‘gymryd rhan’ a ‘digwyddiadau lleol’ i chi.

Gallwch hefyd ddiweddaru’ch dewisiadau cyswllt yma fel buddiolwr presennol Cynllun Cefnogi Gwaed Heintiedig Cymru, i roi gywbod i ni pa bryd a’r ffordd orau i ni gysylltu â chi. Byddwn bob amser yn anelu at ymateb o fewn 3 diwrnod gwaith, fodd bynnag os yw eich ymholiad o natur frys, nodwch o fewn eich neges a byddwn yn ymdrechu i gysylltu â chi cyn gynted ag y bo modd.

Gallai’r gwasanaeth WIBBS gael ei effeithio gan y Coronafeirws. Byddwn yn amlwg yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod taliadau rheolaidd yn parhau i gael eu talu i chi; bod cyngor a chymorth yn dal i fod ar gael; a byddwn yn ceisio sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl.  Ceisiwch fod yn amyneddgar gyda ni yn ystod yr amgylchiadau eithriadol hyn.

Yn ystod y pandemig presennol, rydym yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru, ac mae nifer o’n staff yn gweithio o adref. Os na chaiff eich galwad ei hateb ar unwaith, gadewch neges gyda’ch enw a rhif cyswllt, a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Gallwch gysylltu â Rheolwr WIBSS Mary Swiffen Walker hefyd ar 07970 601561 yn ystod oriau swyddfa.