O 1 Ebrill 2025, mae Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS) bellach ar gau i geisiadau newydd ar gyfer unigolion sydd wedi’u heintio â hepatitis C, HIV neu’r ddau yn hanesyddol, gan waed neu gynhyrchion gwaed y GIG.
Gall partneriaid sydd newydd gael profedigaeth mewn achosion lle roedd y person heintiedig eisoes yn aelod o’r cynllun, ac wedi marw rhwng 1 Ionawr 2025 a 31 Mawrth 2025, wneud cais i’r EIBSS hyd at 3 mis o ddyddiad y farwolaeth. Mae hyn er mwyn caniatáu cyfnod gras da ar ôl y dyddiad cau ar 31 Mawrth 2025 ar gyfer ceisiadau newydd.
Ar ôl y dyddiad hwnnw, dylai ystadau a phartneriaid mewn profedigaeth wneud cais yn uniongyrchol i’r Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig (IBCA) sy’n gyfrifol am unrhyw daliadau iawndal. Gallwch weld eu diweddariadau diweddaraf ar eu gwefan