Fel buddiolwr presennol Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru, os bydd newid arwyddocaol i’ch iechyd, gallech fod yn gymwys i gael cymorth Hepatitis C Cam II datblygedig os ydych yn dioddef, neu wedi dioddef, un o’r canlynol:

  • sirosis yr afu/iau
  • canser sylfaenol yr afu/iau
  • Lymffoma cell B nad yw’n Hodgkin’s
  • os ydych chi wedi cael trawsblaniad afu/iau neu ar y rhestr aros

Ar hyn o bryd, mae taliadau Cam II datblygedig:

  • yn gyfandaliad ychwanegol o £50,000 (yn ychwanegol at y £20,000 y dylech fod wedi’i gael eisoes fel buddiolwr Hepatitis C Cronig Cam I), a
  • thaliadau rheolaidd, sef £18,833 y flwyddyn ar hyn o bryd neu £37,157 y flwyddyn i’r rhai sydd wedi’u heintio â HIV a Hepatitis.

I hawlio’r arian hwn, dylech lenwi ffurflen gais Hepatitis C datblygedig – sydd ar gael yma ac mae canllawiau perthnasol i’w gweld yma.

 

Pan fyddwch wedi llenwi’ch adrannau chi o’r ffurflen, rhowch hi i feddyg perthnasol; bydd angen i’r meddyg ddarparu rhywfaint o wybodaeth glinigol i gadarnhau bod un o’r cyflyrau uchod arnoch chi. Gallai’r meddyg fod yn arbenigwr clinigol ar Hepatitis C (naill ai’n hepatolegydd neu’n ymgynghorydd ar glefydau heintus) neu gallai fod yn ymgynghorydd arall os bydd yn ymwneud â thrin eich salwch.

Pan fydd Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru wedi ystyried eich ffurflen, os cadarnheir eich bod yn gymwys i gael cymorth Hepatitis C datblygedig, cewch eich cyfandaliad ychwanegol a bydd eich taliad rheolaidd yn dechrau cyn gynted â phosibl, gyda manylion personol i chi’n cael eu hanfon trwy eich dewisiadau cysylltu. Bydd eich taliadau rheolaidd yn cael eu hôl-ddyddio i’r dyddiad pan gyflwynoch eich cais, ar sail pro rata ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Nod Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru fydd rhoi penderfyniad ar bob cais o fewn 25 diwrnod gwaith, er y gall fod yn hirach os byddant angen gofyn i chi neu eich meddyg am wybodaeth ychwanegol.

Cysylltwch â Gwasanaeth Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru os oes gennych unrhyw ymholiadau, os nad ydych yn siŵr pa ffurflen i’w llenwi neu os hoffech help i lenwi’r ffurflenni. Os bydd angen copi caled o’r ffurflen arnoch, cysylltwch â Gwasanaeth Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru ac anfonir copi atoch yn y post.