Bydd Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru yn ystyried amrywiaeth o geisiadau am gymorth gan bobl sydd wedi’u heintio â Hepatitis C neu HIV, neu’r ddau, neu wedi’u heffeithio ganddynt, o ganlyniad i waed neu gynhyrchion gwaed heintiedig y GIG.

Ein gobaith yw y gallwn gymeradwyo mwyafrif y ceisiadau, ond os caiff eich cais ei wrthod, gallwch apelio yn erbyn penderfyniad Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru a bydd yn cael ei ailystyried.

 

Pa gamau ddylwn i eu cymryd os byddaf yn dymuno apelio?

Byddwch wedi cael gwybodaeth am y rhesymau pam gwrthodwyd eich cais ar gyfer y categorïau isod:

  • cais i ymuno â Chynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru gan rywun sydd wedi’i heintio, neu ei ystâd, pan fydd y person heintiedig wedi marw;
  • cais i fynd ymlaen i daliadau hepatitis C datblygedig Cam II er mwyn cael cyfandaliad mwy a thaliadau rheolaidd hefyd;
  • cais gan weddw, gŵr gweddw, partner sifil neu bartner hirdymor person heintiedig sydd wedi marw, i dderbyn taliad blynyddol;

 

Os na fyddwch yn cytuno â chasgliadau staff Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru, gallwch roi gwybod iddynt eich bod yn dymuno apelio yn erbyn eu penderfyniad. Os hoffech apelio, dylech roi gwybod iddynt o fewn tri mis o ddyddiad y llythyr a oedd yn rhoi gwybod i chi bod eich cais wedi’i wrthod. Gallai Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru ystyried apeliadau sy’n cyrraedd dros dri mis ar ôl i chi gael gwybod am eu penderfyniad, ond bydd hynny o dan amgylchiadau eithriadol yn unig.

Os hoffech apelio, dylech ddarparu llythyr neu e-bost yn datgan pam rydych chi’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru. Yn y llythyr neu’r e-bost hwn, dylech gynnwys:

  • Y rhesymau pam rydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad; ceisiwch gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl am pam rydych chi’n anghytuno â thystiolaeth feddygol.
  • Os oes modd, cynhwyswch fwy o dystiolaeth sy’n mynd i’r afael â’r pwyntiau hyn.
  • Ceisiwch gynnwys tystiolaeth feddygol na wnaethoch ei darparu’r tro diwethaf.

 

Nid oes rhaid i chi ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol, ond os bydd unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol sy’n berthnasol i’ch achos yn eich barn chi, dylech ei darparu.

Ni allwch apelio yn erbyn y penderfyniad i ddyfarnu cymorth neu grantiau yn ôl disgresiwn. Fodd bynnag, os ydych chi’n teimlo bod gwybodaeth wedi’i hepgor ar eich cais, gallwch ffonio Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru yn uniongyrchol er mwyn iddynt ailystyried.

Beth fydd y panel apeliadau yn ei ystyried?

Bydd eich achos yn cael ei drosglwyddo i’r panel apeliadau annibynnol. Er y bydd Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru yn cynnig cymorth ysgrifenyddol ac yn trefnu i’r panel apeliadau gyfarfod, mae’r panel yn gwbl annibynnol ar staff Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru ac yn ddiduedd – nid oes ganddynt unrhyw fudd ariannol na budd arall allai ddylanwadu ar eu barn o blaid naill ai Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru neu’r ymgeisydd.

Rôl y panel yw llunio barn ar b’un a yw eich cais yn bodloni’r meini prawf a amlinellir ar gyfer yr agwedd berthnasol ar Gynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru rydych chi’n gwneud cais amdani, ai peidio.

Efallai byddwch am gyfeirio at y meini prawf cymhwysedd ar gyfer Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru, fel y’u gosodwyd gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â chanllawiau eraill ar y wefan, sy’n esbonio’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer grantiau penodol. Er enghraifft, gallai’r panel ailystyried p’un a gafodd eich haint Hepatitis C neu HIV ei achosi gan waed neu gynhyrchion gwaed heintiedig y GIG ai peidio, yn ôl pwysau tebygolrwydd.

Bydd y panel yn dibynnu’n bennaf ar y wybodaeth yn y ffurflen gais, unrhyw ddatganiadau ategol gan glinigwyr ac unrhyw wybodaeth ychwanegol a ddarparwch adeg apelio. Fodd bynnag, os yw’n berthnasol, gallai’r panel ofyn am ragor o wybodaeth gefndir hefyd, er enghraifft gan y clinigwr neu weithiwr meddygol proffesiynol arall sydd wedi ymwneud â’ch trin chi (neu’r person heintiedig os yw wedi marw ers hynny) naill ai nawr neu ar yr adeg pan dybiwyd eich bod chi wedi’ch heintio/bod y person heintiedig wedi’i heintio. O dan rai amgylchiadau, gallant hefyd geisio barn annibynnol gan weithiwr meddygol proffesiynol i helpu cynghori’r panel ar y dystiolaeth ddiweddaraf sy’n ymwneud ag effeithiau haint Hepatitis C neu HIV.

Yr unig sail ar gyfer ystyried apêl yw pan fyddwch yn apelio oherwydd eich bod o’r farn bod Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru wedi dod i’r farn, yn anghywir, nad ydych yn gymwys i gael taliad yn unol â meini prawf cymhwysedd y cynllun.

Ni fyddai apêl yn cael ei hystyried mewn achosion pan fyddwch yn cydnabod nad ydych yn gymwys yn ôl y meini prawf cymhwysedd presennol, ond rydych yn anghytuno â’r meini prawf hynny (mewn achosion o’r fath, gallai eich cais gael ei ystyried pe bai Llywodraeth Cymru yn cytuno i ddiwygio’r meini prawf cymhwysedd yn unig).

Hefyd, gallwch apelio unwaith yn unig mewn perthynas ag unrhyw gais unigol i Gynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru, er y gallwch apelio eto, er enghraifft, os byddwch wedi cyflwyno dau gais gwahanol am wahanol fathau o daliadau, y mae’r ddau ohonynt wedi’u gwrthod.

Gall gwybodaeth am aelodau presennol y panel apelio gael eu rhoi os gwnewch gais i Gynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru amdani. Mae gan bob un o’r aelodau brofiad clinigol neu brofiad arall perthnasol sy’n galluogi iddynt ystyried apeliadau o’r math hwn. Ym mhob achos, gofynnir i dri aelod panel gyfarfod i adolygu’r dystiolaeth a barnu p’un a oedd penderfyniad gwreiddiol Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru yn gywir ai peidio.

A allaf i fod yn bresennol yn y panel apelio?

Nid oes rhaid i chi fod yn bresennol, ond os hoffech fod yn bresennol yng nghyfarfod y panel i roi tystiolaeth yn bersonol, gallwch wneud hynny. Rhowch wybod i Gynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru os hoffech wneud hyn – os felly, rhowch wybod iddynt hefyd am unrhyw ddyddiadau penodol pan na allwch fod yn bresennol ac unrhyw ofynion penodol sydd gennych, fel problemau symudedd, i sicrhau eu bod yn gallu trefnu lleoliad addas ar gyfer y cyfarfod.

Os hoffech, gallwch ddod ag un person arall gyda chi i gyfarfod y panel. Gallai fod yn aelod o’r teulu, yn ffrind, yn ofalwr neu rywun sy’n gweithio i neu gyda sefydliad sy’n cefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan waed heintiedig a/neu gan Hepatitis C neu HIV.

Yng nghyfarfod y panel, cewch gyfle i roi datganiad os hoffech wneud hynny a gallai aelodau’r panel ofyn rhai cwestiynau i chi hefyd. Os ydych chi’n cael anawsterau wrth gyfathrebu, gallwch ofyn i’ch cydymaith siarad ar eich rhan os bydd yn eich adnabod yn dda ac yn deall manylion eich cais, os yw hynny’n well gennych. Dylech bob amser roi gwybod i Gynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru pwy yw’r unigolyn, cyn y cyfarfod, fel y gallant wneud y trefniadau priodol.

Rydym yn deall bod hyn yn gallu bod yn brofiad ingol ac emosiynol i bobl sydd wedi’u heffeithio – bydd y panel bob amser yn trin yr ymgeiswyr gyda sensitifrwydd a chwrteisi, a bydd yr awyrgylch mor anffurfiol â phosibl. Er y gallwch ddod ag un cynrychiolydd yn unig i gyfarfod y panel yn bersonol, gallwch wrth gwrs ofn i bobl eraill eich helpu i baratoi eich datganiad. Bydd yr holl wybodaeth a ddarparwch – yn eich cais ac i aelodau’r panel – yn cael ei thrin yn gyfrinachol.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Yn dilyn cyfarfod y panel, bydd y panel yn ystyried y dystiolaeth a ddarparwyd iddynt ac yn gwneud eu penderfyniad. Pan fyddant wedi cytuno ar eu penderfyniad, byddant yn rhoi gwybod i Gynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru. Bydd y panel yn ysgrifennu atoch cyn gynted â phosibl i roi gwybod i chi am benderfyniad y panel a rhoi gwybodaeth i chi am y rhesymau a roddodd y panel dros ei benderfyniad.

Os oedd eich apêl yn llwyddiannus, yna bydd Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru yn prosesu’ch cais cyn gynted â phosibl ac yn trefnu unrhyw daliadau sy’n ddyledus i chi. Os gwnaethoch gais am daliad rheolaidd, bydd eich taliadau’n cael eu hôl-ddyddio i’r dyddiad pan gyflwynoch eich cais gwreiddiol i Gynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru.