Taliadau Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru

At ddibenion cyfeirio, gweler y tabl isod am symiau taliadau Cynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru. Hefyd, sylwch nad oes angen ystyried unrhyw daliad a gewch gan Gynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru wrth gyfrifo’ch hawl i fudd-daliadau. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar yr arweiniad manwl yma.

Pwrpas y llythyr hwn yw darparu gwybodaeth am daliadau ex-gratia a chyfalaf cysylltiedig o Gynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS) a’r effaith ar asesiadau ariannol sy’n ymwneud â ffioedd gofal, edrychwch ar yr arweiniad manwl yma.

 

Eglurhad ar y goblygiadau o ran treth yn sgil y llog a enillir ar fuddsoddi taliadau, a’r camau sydd angen eu cymryd

Er 1988, mae llywodraethau olynol wedi sefydlu cynlluniau amrywiol i ddarparu cymorth ariannol i unigolion sydd wedi’u heintio â Hepatitis C, HIV neu’r ddau trwy driniaeth GIG â chynhyrchion gwaed halogedig. Y sefyllfa hirsefydlog fu y dylai taliadau ex gratia o’r fath gael eu heithrio rhag treth.

Yn dilyn cyflwyno cynlluniau newydd, cyflwynwyd deddfwriaeth yn 2017 i sicrhau bod taliadau cyfnodol i fuddiolwyr o’r cynlluniau hynny yn cael eu heithrio rhag treth incwm, yn yr un modd â thaliadau cyfnodol o gynlluniau presennol.

Mae’r eithriad yn ymestyn i’r taliadau cyfnodol neu flwydd-daliadau mewn perthynas â’r iawndal yn unig. Nid yw unrhyw elw o fuddsoddi’r symiau hynny wedi’i eithrio. Unwaith y bydd unrhyw arian a dderbynnir o iawndal wedi’i fuddsoddi bydd unrhyw log a dderbynnir ar y buddsoddiad hwnnw yn drethadwy yn y ffordd arferol a dylid ei ddatgan ar ffurflenni treth a hunanasesiadau. Dylid ceisio cyngor ariannol annibynnol fel y nodwyd yn flaenorol.

Taliadau Cyfandaliad Un tro
cyfandaliad cyn cydraddoldeb cyfandaliad ar ôl cydraddoldeb 25/03/2021
Hep. C Cam 1 £20,000 £50,000
Cam 1 Uwch
Hep. C Cam 2 £50,000 £70,000
HIV £20,000 £80,500
Cyd-heintiedig (HIV a Cham 1) £20,000 + £20,000 £80,500 + £50,000 gan wneud cyfandaliad o

£130,500

Cyd-heintiedig (HIV a Cham 1+ Uwch) £20,000
Cyd-heintiedig (HIV a Cham 2) £20,000 + £70,000 £80,500 + £70,000 gan wneud cyfandaliad o

£150,500

 

Ar gyfer buddiolwyr sydd eisoes ar y cynllun WIBSS, byddwch wedi derbyn y gwahaniaeth mewn taliadau erbyn mis Awst 2021.

Taliadau Parhaus 23/24 Cyfradd ar 75% ar gyfer partneriaid/priod mewn profedigaeth cyfraddau WIBSS cyfredol 24/25 Cyfradd ar 75% ar gyfer partneriaid/priod mewn profedigaeth
Hep. C Cam 1  

£21,467

 

 

£16,100

 

£22,905

 

£17,179

 

Cam 1+ Uwch  

£32,555

 

£24,417

 

£34,736

 

£26,052

 

Hep. C cam 2  

£32,555

 

£24,417

 

£34,736

 

£26,052

 

HIV £32,555

 

£24,417

 

£34,736

 

£26,052

 

Cyd-heintiedig (HIV a Cham 1) £44,189

 

£33,141

 

£47,150

 

£35,363

 

Cyd-heintiedig (HIV a Cham 2) £51,162

 

£38,372

 

£54,590

 

£40,943

 

Cyd-heintiedig (HIV a Cham 1+) £51,162

 

£38,372

 

£54,590

 

£40,943

 

Tanwydd Gaeaf £618  £618 £659  £659