{"id":938,"date":"2020-02-25T09:39:29","date_gmt":"2020-02-25T09:39:29","guid":{"rendered":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/?page_id=938"},"modified":"2022-12-14T11:14:17","modified_gmt":"2022-12-14T11:14:17","slug":"the-psychology-wellbeing-service","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/cy\/the-psychology-wellbeing-service\/","title":{"rendered":"Gwasanaeth Seicoleg a Lles"},"content":{"rendered":"Mae t\u00eem seicoleg wedi cael ei sefydlu erbyn hyn, yn benodol ar gyfer y gwasanaeth. O fis Ionawr 2020, gall unigolion sydd wedi cofrestru gyda WIBSS ac aelodau o\u2019u teuluoedd gael mynediad i asesiad a thriniaeth seicolegol yn ymwneud \u00e2\u2019r anawsterau emosiynol o gael eu diagnosio gyda hepatitis C a\/neu HIV ac o orfod byw gyda hyn. Mae\u2019r t\u00eem yn ymwybodol o\u2019r cyd-destun hanesyddol, ac mae ganddynt brofiad o weithio gyda\u2019r anawsterau emosiynol sydd wedi codi o ganlyniad i hynny. Un gobaith yw, drwy gynnig gwasanaeth seicoleg arbenigol, y bydd rhywfaint o gydnabyddiaeth o\u2019r cymhlethdod corfforol a seicolegol, ac o\u2019r effaith ar ansawdd bywyd a pherthnasoedd.<\/p>\n<p>Yn dilyn atgyfeiriad i\u2019r t\u00eem seicoleg, bydd apwyntiad asesu yn cael ei gynnig, a fydd yn gyfle i drafod yr anawsterau emosiynol blaenorol a phresennol, ac i ystyried opsiynau ar gyfer triniaeth yn y dyfodol. Mae\u2019r t\u00eem seicoleg yn gallu cynnig sgwrs dros y ff\u00f4n cyn ac ar \u00f4l yr atgyfeirio os oes unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch beth y dylid ei ddisgwyl yn dilyn asesiad a\/neu driniaeth seicolegol.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/Self-Referral-Form-Welsh-version-1.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Ffurflen Hunangyfeirio<\/a><\/p>\n<p>Mae croeso i chi gysylltu \u00e2\u2019r t\u00eem ar 029 20196141, neu drwy e-bostio: <a href=\"mailto:wibss.wellbeingservice@wales.nhs.uk\">wibss.wellbeingservice@wales.nhs.uk<\/a><\/p>\n<p><strong>Effaith Emosiynol yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig<\/strong><\/p>\n<p>O siarad \u00e2 phobl sy&#8217;n defnyddio ein gwasanaeth, croesawyd yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig parhaus fel llwyfan i ddatgelu&#8217;r gwir a deall yr amgylchiadau sy&#8217;n ymwneud \u00e2 danfon gwaed a chynhyrchion gwaed heintiedig.\u00a0 Mae\u2019r Ymchwiliad, fel ffocws i rai, wedi bod yn lle defnyddiol i ddod ynghyd i fynegi teimladau o golled, dicter a diymadferthedd (i enwi dim ond rhai). Mae hyn wedi\u2019i waethygu <span style=\"text-decoration: line-through;\">gan<\/span> drawma ac ymdeimlad cryf o anghyfiawnder wrth i bobl ail-fyw atgofion a phrofiadau anodd o&#8217;r gorffennol.<\/p>\n<p>Rydym yn gwerthfawrogi bod yr awydd am gyfiawnder wedi bod yn obaith i lawer ac, yn realistig, efallai na fydd canlyniad yr Ymchwiliad yn bodloni disgwyliadau pawb.\u00a0 Mae Gwasanaeth Seicoleg a Lles Chynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS), felly, yn ystyried pa agweddau o gefnogaeth y teimlwch y gallai fod eu hangen arnoch unwaith y daw&#8217;r Ymchwiliad i ben, a bydd cyfleoedd cymunedol, gyda&#8217;r rhai sy&#8217;n rhannu profiadau tebyg, yn lleihau.\u00a0 Os hoffech siarad ag un o\u2019r t\u00eem am eich teimladau mewn perthynas \u00e2\u2019r Ymholiad i Waed Heintiedig a\u2019ch bod wedi cofrestru gyda Chynllun Cynorthwyo Gwaed Heintiedig Cymru (neu\u2019n aelod o deulu rhywun sydd wedi cofrestru gyda WIBSS) yna mae croeso i chi gysylltu \u00e2 ni ar: 029 20196141, neu drwy e-bost: <a href=\"mailto:wibss.wellbeingservice@wales.nhs.uk\">wibss.wellbeingservice@wales.nhs.uk<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Os oes gennych ddiddordeb mewn gwylio\u2019r sesiwn dystiolaeth y bu Dr Coffey ynddi; mae ar gael ar wefan yr Ymchwiliad IBI <a href=\"https:\/\/www.infectedbloodinquiry.org.uk\/evidence\/transcript-london-friday-11-november-2022-keith-carter-and-specialist-psychological\">Trawsgrifiad \u2013 Llundain \u2013 dydd Gwener 11 Tachwedd 2022 (Keith Carter a Chymorth Seicolegol Arbenigol) | Ymchwiliad i Waed Heintiedig<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Dim yn si\u0175r os ydy hyn yn addas i chi? Darllenwch am brofiad pobl eraill sydd wedi cael cymorth<\/strong>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Tysteb 1<\/p>\n<p>Mae fy mhrofiad gyda&#8217;r rhaglen llesiant seicolegol wedi bod yn bositif iawn, a buaswn yn ei hargymell i unrhyw un sy&#8217;n dioddef pryder a straen o ganlyniad i dderbyn gwaed a chynhyrchion gwaed halogedig oherwydd esgeulustod. Nid yw&#8217;n ateb cyflym i rywun fel fi, ond mae wedi fy helpu i ddelio \u00e2 rhywfaint o broblemau anodd, ac mae&#8217;n dal i fy helpu, ond mae golau ym mhen draw&#8217;r twnnel hir hwn.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Tysteb 2<\/p>\n<p>Awgrymodd ffrind fy mod yn cysylltu \u00e2 WIBSS, gan ei fod yn ymwybodol bod mynychu&#8217;r ymchwiliad cyhoeddus yng Nghaerdydd wedi effeithio ar fy iechyd. Roeddwn wedi rhoi cynnig ar gwnsela drwy\u2019r gwaith, ond roeddwn yn teimlo ei fod yn cyfyngu ar fy amser h.y. chwe sesiwn, oedd ddim mor ddefnyddiol \u00e2 hynny. Yn y pen draw, doeddwn i ddim yn gallu ymdopi gyda fy emosiynau, felly cysylltais \u00e2 WIBSS, ac rwyf mor falch fy mod i wedi gwneud hynny. Erbyn hyn, rwy\u2019n cael cymorth a chefnogaeth gan fy nghwnselydd, \u00a0sydd nid yn unig \u00e2 llawer fawr o wybodaeth ynghylch y mater Gwaed Halogedig ond sydd hefyd, yn gwerthfawrogi&#8217;r ffaith ein bod ni wedi dioddef ers cryn amser ac y bydd felly, \u00a0yn cymryd amser i allu goresgyn yr anawsterau.\u00a0 Mae&#8217;r cwnsela hwn wedi&#8217;i deilwra i weddu fy anghenion, a dwi ddim yn teimlo dan bwysau i wella&#8217;n gyflym. Rwyf wedi cymryd camau ymlaen a chamau bach yn \u00f4l hefyd, ond rwy\u2019n gwybod, er gwaethaf popeth, bod gennyf gefnogaeth ac anogaeth lawn fy nghwnselydd bob amser, sy&#8217;n rhoi\u2019r cryfder i mi gario \u2018mlaen. Mae pob sesiwn yn fy ngalluogi i deimlo&#8217;n fwy abl i ymdopi gyda fy mhroblemau. Mae COVID 19 wedi effeithio ar fy iechyd meddwl ond unwaith eto, mae&#8217;r cwnsela wedi cael ei deilwra i weddu fy anghenion presennol. Buaswn yn cynghori unrhyw un sy&#8217;n ystyried cael cwnsela i gysylltu \u00e2 WIBSS. Mae&#8217;r cwnsela hwn mor wahanol\u00a0 &#8211; mae&#8217;n ddefnyddiol, yn gefnogol ac yn gallu cael ei addasu i&#8217;r unigolyn.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Tysteb 3<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n berson normal, rwy&#8217;n byw bywyd normal, ond ydw i? Weithiau, dwi\u2019n crio fy hun i gysgu a\u2019n ei guddio, dwi yn y car ac mae&#8217;r dagrau&#8217;n dod o unman, pam ydw i&#8217;n teimlo mor drist ac ar fy mhen fy hun pan fod gen i gymaint o bobl,\u00a0 ffrindiau a theulu o fy nghwmpas.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Nid yw wedi bod yn hawdd bob amser, nid dim ond y gwaed halogedig a\u2019r problemau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 hyn, ond llawer o bethau eraill na ddylai person ymdopi \u00e2 nhw, eu dioddef neu eu profi ond rwy&#8217;n berson cryf, a dwi\u2019n gallu ymdopi, fi yw&#8217;r un mae pawb ei heisiau i&#8217;w helpu, ac yna, un diwrnod,\u00a0 dwi ddim yn gallu, a dwi angen rhywun.<\/p>\n<p>Nid yw&#8217;n hawdd cael help, ac nid yw\u2019n hawdd gofyn am help.<\/p>\n<p>Mae WIBSS yna, fe wnes i lenwi ffurflen ychydig flynyddoedd yn \u00f4l i ddweud sut oeddwn i\u2019n teimlo, a chefais help ganddynt. Mae dim ond cael rhywun i siarad \u00e2 nhw am rywbeth yn help mawr.\u00a0 Dwi ddim yn gwybod pam, ond mae\u2019n wir \u2013 dwi\u2019n edrych ymlaen at y galwadau, mae&#8217;n nhw\u2019n fy helpu i, ac fe allant eich helpu chi hefyd.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Tysteb 4<\/p>\n<p>&#8220;Cafodd y driniaeth a gefais ar gyfer hepatitis C effaith ddinistriol ar fy mywyd. Roeddwn yn teimlo bod siarad \u00e2&#8217;r cwnselydd yn help, a bod hyn wedi fy helpu i ddeall rhai o&#8217;r materion emosiynol a seicolegol dwi wedi bod yn delio \u00e2 nhw. Yn benodol, mae siarad am rywfaint o\u2019r problemau dwi wedi eu cael o ran fy mherthynas \u00e2 fy nheulu a fy ffrindiau wedi fy ngalluogi i roi pethau mewn cyd-destun, ac wedi fy helpu i wella pethau. Mae siarad \u00e2 rhywun y tu allan i fy nghylch wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Mae gwneud rhywfaint o ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar wedi fy helpu gyda fy mhroblemau cysgu hefyd.&#8221;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Tysteb 5<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwasanaeth wedi bod yn helpu ein mab, sydd wedi bod yn cael trafferth gyda materion yn ymwneud ag iechyd ei dad, ac mae wedi dangos ffyrdd iddo o ymdopi gyda hyn a gyda phroblemau gorbryder eraill. Mae&#8217;r sesiynau\u2019n ddefnyddiol iawn yn ei farn ef.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Tysteb 6<\/p>\n<p>Fy enw i ydy Margaret ac mae&#8217;r t\u00eem yn WIBSS wedi gofyn i mi ddweud ychydig o eiriau am y gwasanaeth llesiant a chymorth gwych maen nhw\u2019n ei ddarparu i&#8217;r rhai hynny ohonom sy&#8217;n byw gyda&#8217;r cythrwfl emosiynol o waed a chynhyrchion gwaed halogedig.<\/p>\n<p>Ffoniodd cwnselydd o d\u00eem Seicoleg a Llesiant WIBSS fi un diwrnod yn ystod tymor y Gwanwyn 2017, yn gofyn a hoffwn ddod i&#8217;w gweld, a chytunais \u2013 er ychydig yn gyndyn.\u00a0\u00a0 Buom yn siarad am beth amser am yr hyn y gallwn ei ddisgwyl o gyfarfod o&#8217;r fath, ac roeddwn i\u2019n teimlo&#8217;n falch fy mod i wedi gwneud y penderfyniad.\u00a0 Roeddwn yn teimlo\u2019n isel iawn yn emosiynol, a wir angen help.<\/p>\n<p>Yn ein hapwyntiad cyntaf, roeddwn i mor bryderus fel fy mod yn teimlo fel cerdded allan a pheidio mynd n\u00f4l, roedd y syniad o siarad am fy nheimladau i ddieithryn llwyr yn fy nychryn, roeddwn i&#8217;n teimlo&#8217;n s\u00e2l i fy stumog.\u00a0\u00a0\u00a0 Oherwydd natur broffesiynol a sensitif y cwnselydd, ymlaciais digon i aros ychydig yn hirach a chlywed beth oedd ganddi i&#8217;w ddweud.\u00a0\u00a0\u00a0 Yn ddiweddarach, dechreuais feddwl efallai y gallai hyn fy helpu i wella petaswn yn dal ati.<\/p>\n<p>Mae llawer o bethau da a drwg wedi digwydd ar hyd y ffordd \u2013 dwi wedi crio yn ystod ein sesiynau cwnsela, wedi mynd yn ymosodol, wedi gweiddi mewn dicter a rhwystredigaeth ac wedi dadlau a phwdu; dwi wedi dangos bron bob emosiwn negyddol, hunanddinistriol dwi\u2019n dioddef ohonynt.<\/p>\n<p>Drwy&#8217;r cyfan, mae\u2019r cwnselydd wedi aros yr un fath, ac wedi rhoi sicrwydd gofal i mi &#8211; rhywbeth roeddwn wedi teimlo fy hun yn annheilwng ohono ar \u00f4l blynyddoedd o ddioddef agweddau beirniadol, creulon gan lawer o&#8217;r rheiny oedd ynghlwm yn fy materion iechyd cyn, ac ar \u00f4l, i mi gael fy niagnosio gyda Hepatitis.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l cyfarfodydd ff\u00f4n rheolaidd gyda&#8217;r cwnselydd (gan fy mod yn byw yng Nghernyw), yn araf, rwy&#8217;n dechrau deall rhywfaint o&#8217;r difrod seicolegol sydd wedi cael ei achosi gan fy haint h.y.\u00a0 ei fod allan o fy rheolaeth ac nid fy mai i oedd o, ac mae hynny&#8217;n gam enfawr ymlaen.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cwnselydd yn gweithio gyda mi i geisio fy nghael i dderbyn y pethau dwi ddim yn gallu eu newid, ac i addasu fy ffordd o feddwl i fyw gyda&#8217;r digwyddiadau niweidiol yn y gorffennol a&#8217;u rheoli&#8217;n ddigon llwyddiannus i fedru mwynhau ffordd fwy dibynadwy o fyw.\u00a0\u00a0 Efallai fod hynny&#8217;n swnio fel siarad seico i ni\u2019r bobl leyg, yn enwedig gan fod ein poen wedi cael ei esgeuluso am gymaint o amser efallai, fel y collais ffydd unwaith mewn cael unrhyw gymorth onest ac adeiladol, ond mae gwasanaeth llesiant WIBSS yn gallu llwyddo, a gallaf ei argymell yn bersonol, a dweud y gallai wneud yr un peth i unrhyw un ohonoch chi.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae gen i ffordd hir o fy mlaen ond fel tysteb i&#8217;r hyn sydd wedi cael ei gyflawni hyd yn hyn, gallaf siarad yn haws am fy mrwydr, a byddaf yn ddiolchgar i WIBSS am byth am sefydlu eu gwasanaeth llesiant\/cymorth.<\/p>\n<p><strong>Crynodeb byr o fy mywyd gyda Hepatitis C<\/strong><\/p>\n<p>Yn 2013, ar \u00f4l symud o Gymru i Gernyw, cefais alwad gan fy nghlinig meddyg teulu lleol i ddod i mewn i drafod canlyniadau prawf gwaed rwt\u00een oedd wedi cael ei wneud ychydig ddyddiau&#8217;n gynharach.\u00a0 Roedd gen i ymweliad wedi&#8217;i drefnu ymlaen llaw i siarad am fy iselder cynyddol ac am bethau bach eraill, felly cafodd hyn ei wneud ar yr un pryd.<\/p>\n<p>Yn bennaf oll, cefais fy holi am faint o alcohol roeddwn i\u2019n yfed, ac awgrymwyd ei fod o bosibl wedi achosi sirosis yr afu.\u00a0 Roedd angen profion pellach arnaf, a byddai ymgynghoriad ag arbenigwr yr afu yn cael ei drefnu. Yna, fel \u00f4l-ystyriaeth, gofynnodd beth oedd y rheswm gwreiddiol pam y gofynnais i gael ei gweld.\u00a0 Roeddwn wedi fy syfrdanu&#8217;n llwyr, a dechreuais grio llond fy mol \u2013 bron ddim yn gallu cymryd y cyfan i mewn neu siarad.\u00a0\u00a0 Fe wnes i fwmblan rhywbeth am fy iselder, a\u2019r ymateb a gefais oedd ei fod yn llawer haws i\u2019w drin na phroblem yr afu.\u00a0 Fe&#8217;m cynghorodd yn gryf i dorri&#8217;n \u00f4l ar alcohol neu os yw&#8217;n bosibl, rhoi\u2019r gorau iddo\u2019n gyfan gwbl, a dyna ni\u2026..<\/p>\n<p>Roedd fy ng\u0175r yn flin iawn ac yn amheus o&#8217;r diagnosis.\u00a0 Roedd eisiau i&#8217;r ddau ohonom fynd i weld y Doctor eto ar unwaith i gwyno am y ffordd roedd hyn wedi cael ei drin, ond nid oedd unrhyw ffordd y gallwn fyth ei hwynebu eto.\u00a0 Ar wah\u00e2n i fod ofn y posibilrwydd o gael clefyd yr afu, roeddwn yn teimlo cywilydd fy mod i efallai wedi achosi\u2019r sirosis drwy yfed gormod o win coch &#8211; doeddwn i\u2019n methu stopio crio.<\/p>\n<p>Yn y pen draw, cefais fy niagnosio gyda Hep C.\u00a0 Er nad oeddwn erioed wedi clywed amdano o&#8217;r blaen, roeddwn yn falch dros ben nad Sirosis \u00a0oedd o.\u00a0 Ychydig ddyddiau&#8217;n ddiweddarach, fe wnes i gyfarfod gydag ymgynghorydd yr iau a gododd ofn arnaf ar unwaith &#8211; roedd yn fwli braidd.\u00a0 Ni eglurodd unrhyw beth am fy nghyflwr, fe wnaeth fy holi\u2019n ymosodol am faint o alcohol roeddwn i\u2019n yfed, fe wnaeth archwiliad cyflym, fy nghynghori i ddechrau triniaeth o fewn chwe mis ac i fi a fy nheulu gael prawf HIV, a dyna ni.\u00a0 Doeddwn i ddim callach, ac mewn darnau.<\/p>\n<p>Diolch byth, llwyddais i ddod o hyd i Hep C Trust, Llundain ar-lein, ffoniais nhw ar unwaith a thrwy fy nagrau, fe wnes i ddweud fy stori wrthyn nhw.\u00a0\u00a0 Roeddent yn wych, ond yn anffodus, bu&#8217;n rhaid iddynt roi gwybod i mi am yr ymchwil i waed halogedig ac mai&#8217;r rheswm dros fy haint oedd oherwydd fy mod i wedi cael nifer o drallwysiadau gwaed yn y saithdegau ar \u00f4l cael damwain ffordd ddifrifol.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 Doeddwn i ddim yn gallu credu\u2019r peth, roeddwn wedi bod yn y system ysbytai ers dros ddeugain mlynedd, a doedd neb erioed wedi s\u00f4n am y risgiau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2&#8217;r trallwysiadau, nac wedi gwirio am heintiau yn nes ymlaen.\u00a0\u00a0\u00a0 Roedd yn ergyd enfawr, ac yn un y bydd gyda mi am byth.<\/p>\n<p>Ar wah\u00e2n i&#8217;r cyfarfod cyntaf gyda fy nyrs Hep, nid oedd s\u00f4n pellach am achos fy firws, roedd fel pe bai heb ddigwydd neu nad oedd ots fy mod i mewn darnau.<\/p>\n<p>Am y tair blynedd nesaf, roeddwn ar\/oddi ar driniaeth erchyll, ac yn dioddef o drawma corfforol a meddyliol eithafol.<\/p>\n<p>Yn 2016. ar \u00f4l i\u2019r feirws glirio ac ar \u00f4l i mi yr ymweliadau i\u2019r ysbyty o\u2019r diwedd &#8211; cyrhaeddais argyfwng emosiynol difrifol.\u00a0 Dechreuais ddioddef o gryniadau corfforol, cyfog a dicter, roedd fy meddwl yn llawn lleisiau negyddol drwy\u2019r amser, a phan roeddwn yn gallu cael ychydig oriau o gwsg, roedd hunnllefau ofnadwy yn fy neffro.\u00a0 Collais fy archwaeth, ac roedd gen i ofn gadael fy nghartref neu ateb y ff\u00f4n.\u00a0 Cysylltais \u00e2&#8217;r GIG o&#8217;r diwedd i gael help ac ar \u00f4l misoedd lawer o aros, cefais ychydig o apwyntiadau gyda chwnselydd nad oedd wedi helpu rhyw lawer, gan nad oedd hi erioed wedi clywed am y sgandal Gwaed halogedig.\u00a0 Roedd popeth yn anobeithiol, a doeddwn i ddim yn gallu gweld ffordd ymlaen.<\/p>\n<p>Am ychydig fisoedd eto, fe wnes i suddo ymhellach i mewn i le du gan obeithio weithiau, na fuaswn byth yn deffro, doedd dim ar \u00f4l i mi.\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 Roeddwn i&#8217;n anghywir, fe roddodd un alwad ff\u00f4n gan d\u00eem llesiant WIBSS y gobaith a\u2019r cryfder roeddwn i ei angen i ddewis troi fy mywyd o gwmpas gyda&#8217;u cefnogaeth lwyr.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Diolch byth, maen nhw yna i bob un ohonom.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Tysteb 7<\/p>\n<p>Penderfynais ddefnyddio&#8217;r Gwasanaeth Llesiant yn WIBBS am y tro cyntaf tua blwyddyn yn \u00f4l. Dwi wedi elwa&#8217;n aruthrol o\u2019r gwasanaeth hwn, ac wedi croesawu&#8217;r gefnogaeth a&#8217;r sicrwydd dwi wedi&#8217;u cael yn ystod y deuddeg mis diwethaf. Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i bob un ohonom, yn arbennig os ydych chi wedi bod yn teimlo&#8217;n ynysig yn eich cartref eich hun. Ar ben hyn, mae gwrandawiadau&#8217;r Ymchwiliad Annibynnol i Waed a Chynhyrchion Gwaed Halogedig wedi cael eu cynnal, a allai fod wedi tynnu llawer ohonom yn \u00f4l i gyfnodau trawmatig a thorcalonnus iawn yn ail-greu atgofion anodd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwasanaeth Llesiant wedi darparu cymorth a rhwyd ddiogelwch i mi, ac wedi rhoi\u2019r gefnogaeth dwi wedi bod ei hangen ers amser maith. Trueni nad oedd y gwasanaeth hwn wedi bod ar gael ddeng mlynedd ar hugain yn \u00f4l pan gollais fy Ng\u0175r i AIDS.<\/p>\n<p>Buaswn yn annog unrhyw un i ddefnyddio&#8217;r gwasanaeth cyfrinachol hwn. Defnyddiwch ef, a pheidiwch \u00e2 dioddef ar eich pen eich hun.\u00a0 Mae help ar gael i chi.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><em>Tysteb 8<\/em><\/p>\n<p><em>Dwi wedi bod yn gweithio gyda chwnselydd o WIBSS ers ymhell dros 18 mis bellach, i fy helpu i ddod i delerau \u00e2 chael trallwysiad gwaed halogedig n\u00f4l ym 1990, er na chefais fy niagnosio tan 2017. Ers gweithio gyda&#8217;r cwnselydd i fy helpu i ddeall a dod i delerau \u00e2 fy niagnosis o Hep C, rwy&#8217;n teimlo fy mod i bellach yn symud ymlaen gyda fy mywyd, rwy&#8217;n teimlo bod dyfodol i mi o\u2019r diwedd. Mae fy ngorbryder dan reolaeth (dwi erioed wedi dioddef ohono o\u2019r blaen), dwi wedi cael swydd newydd a dwi bellach yn edrych ar yrfa newydd. Doeddwn i byth yn meddwl y byddai hyn yn bosibl. Mae&#8217;r cwnselydd yn berson mor ofalgar, ystyriol ac empathetig, sydd bob amser yn rhoi anghenion ei \u00a0chleientiaid yn gyntaf ym mhob sesiwn, ac mae hi\u2019n fy helpu i ddod o hyd i&#8217;r dull mwyaf realistig i mi. Heb y cwnselydd, dwi wir yn teimlo y buaswn yn dal i eistedd yn fy ystafell wely yn cuddio oddi wrth y byd. Ni allaf ddiolch digon iddi.<\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Tysteb 9<\/p>\n<p>Ar \u00f4l cael fy nghyfeirio at d\u00eem WIBSS, aeth t\u00eem defnyddiol a rhagweithiol iawn i&#8217;r afael \u00e2 fy mhryderon cychwynnol; Cefais wybod am newidiadau&#8217;n rheolaidd, ac roedd y staff bob amser yn help mawr pan roeddwn yn cysylltu \u00e2 nhw.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Cefais y cwnsela oedd yn cael ei gynnig gan WIBSS o bosib ar bwynt isaf fy mywyd. Roeddwn yn eithaf nerfus ac yn ansicr ynghylch beth y gallai&#8217;r broses gwnsela ei chynnig i mi, a sut y buasai\u2019n fy helpu i wella fy iechyd meddwl pan ddechreuais y broses hon am y tro cyntaf.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Ni allaf ddiolch digon i fy nghwnselydd, gan fy mod wedi cael fy arwain ar y daith hon mewn ffordd garedig, ddeallus a chefnogol.\u00a0 Dwi wedi teimlo bob amser fy mod yn cael cefnogaeth lawn.\u00a0 Mae wedi bod yn gyfnod anodd a phoenus iawn, a dwi\u2019n ddiolchgar am y cymorth sydd ar gael gan y gwasanaeth WIBSS.\u00a0 Efallai nad dyma ddiwedd fy nhaith, ond dwi\u2019n teimlo ei fod yn sicr wedi fy helpu i ddechrau dod i delerau \u00e2&#8217;r sefyllfa, a difrifoldeb yr hyn sydd wedi digwydd.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>COVID-19 (CORONAFEIRWS)<\/strong><\/p>\n<p>Mae COVID-19 (coronafeirws) yn ofid i ni gyd, a gall effeithio&#8217;n andwyol ar eich lles seicolegol ac emosiynol. Gan fod angen i bawb ynysu eu hunain, mae&#8217;n bwysig iawn gofalu amdanoch chi eich hun, gan fod ceisio sicrhau lles meddyliol da yr un mor hanfodol \u00e2 sicrhau lles corfforol da.\u00a0 Rydym wedi atodi rhywfaint o adnoddau yma a allai eich helpu yn ystod y cyfnod anodd hwn.\u00a0 Rydym yn dal i allu darparu gwasanaeth cwnsela dros y ff\u00f4n; Os hoffech gael cymorth, llenwch y ffurflen atgyfeirio ar-lein a&#8217;i hebostio at <a href=\"mailto:wibss.wellbeingservice@wales.nhs.uk\">wibss.wellbeingservice@wales.nhs.uk<\/a>.<\/p>\n<p>Mae rhai cysylltiadau isod a allai fod o gymorth i chi.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-981\" src=\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/Mindfullness-APP.jpg\" alt=\"\" width=\"225\" height=\"225\" srcset=\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/Mindfullness-APP.jpg 225w, https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/Mindfullness-APP-150x150.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 225px) 100vw, 225px\" \/><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/Mindfulness-app-flyer-V2.pdf\" target=\"\" rel=\"noopener noreferrer\">Mae Ap Ymwybyddiaeth Ofalgar Felindre<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-medium wp-image-978\" src=\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/ACT-companion-300x75.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"75\" srcset=\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/ACT-companion-300x75.jpg 300w, https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/ACT-companion-1024x257.jpg 1024w, https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/ACT-companion-768x192.jpg 768w, https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/ACT-companion-1536x385.jpg 1536w, https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/ACT-companion-2048x513.jpg 2048w, https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/ACT-companion.jpg 2199w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/ACT-companion-Welsh.pdf\" target=\"\" rel=\"noopener noreferrer\">Mae Ap ACTcompanion<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/Sut-i-ymateb-yn-effeithiol-i\u2019r-argyfwng-Corona-gan-Dr-Russ-Harris-awdur-The-Happiness-Trap.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Sut I Ymateb Yn Effeithiol I\u2019r Argyfwng Corona<\/a>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae t\u00eem seicoleg wedi cael ei sefydlu erbyn hyn, yn benodol ar gyfer y gwasanaeth. O fis Ionawr 2020, gall unigolion sydd wedi cofrestru gyda WIBSS ac aelodau o\u2019u teuluoedd gael mynediad i asesiad a thriniaeth seicolegol yn ymwneud \u00e2\u2019r &hellip; <a href=\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/cy\/the-psychology-wellbeing-service\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-938","page","type-page","status-publish","hentry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.3 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Gwasanaeth Seicoleg a Lles - WIBSS<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/the-psychology-wellbeing-service\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"[:en]The Psychology &amp; Wellbeing Service[:cy]Gwasanaeth Seicoleg a Lles[:] - WIBSS\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae t\u00eem seicoleg wedi cael ei sefydlu erbyn hyn, yn benodol ar gyfer y gwasanaeth. O fis Ionawr 2020, gall unigolion sydd wedi cofrestru gyda WIBSS ac aelodau o\u2019u teuluoedd gael mynediad i asesiad a thriniaeth seicolegol yn ymwneud \u00e2\u2019r &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/the-psychology-wellbeing-service\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"WIBSS\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2022-12-14T11:14:17+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/Mindfullness-APP.jpg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"14 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/wibss.wales.nhs.uk\\\/the-psychology-wellbeing-service\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/wibss.wales.nhs.uk\\\/the-psychology-wellbeing-service\\\/\",\"name\":\"[:en]The Psychology & Wellbeing Service[:cy]Gwasanaeth Seicoleg a Lles[:] - WIBSS\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/wibss.wales.nhs.uk\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/wibss.wales.nhs.uk\\\/the-psychology-wellbeing-service\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/wibss.wales.nhs.uk\\\/the-psychology-wellbeing-service\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/wibss.wales.nhs.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2020\\\/04\\\/Mindfullness-APP.jpg\",\"datePublished\":\"2020-02-25T09:39:29+00:00\",\"dateModified\":\"2022-12-14T11:14:17+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/wibss.wales.nhs.uk\\\/the-psychology-wellbeing-service\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-CY\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/wibss.wales.nhs.uk\\\/the-psychology-wellbeing-service\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-CY\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/wibss.wales.nhs.uk\\\/the-psychology-wellbeing-service\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/wibss.wales.nhs.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2020\\\/04\\\/Mindfullness-APP.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/wibss.wales.nhs.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2020\\\/04\\\/Mindfullness-APP.jpg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/wibss.wales.nhs.uk\\\/the-psychology-wellbeing-service\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/wibss.wales.nhs.uk\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"The Psychology &#038; Wellbeing Service\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/wibss.wales.nhs.uk\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/wibss.wales.nhs.uk\\\/\",\"name\":\"WIBSS\",\"description\":\"Welsh Infected Blood Support Scheme\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/wibss.wales.nhs.uk\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-CY\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"[:en]The Psychology & Wellbeing Service[:cy]Gwasanaeth Seicoleg a Lles[:] - WIBSS","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/the-psychology-wellbeing-service\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"[:en]The Psychology & Wellbeing Service[:cy]Gwasanaeth Seicoleg a Lles[:] - WIBSS","og_description":"Mae t\u00eem seicoleg wedi cael ei sefydlu erbyn hyn, yn benodol ar gyfer y gwasanaeth. O fis Ionawr 2020, gall unigolion sydd wedi cofrestru gyda WIBSS ac aelodau o\u2019u teuluoedd gael mynediad i asesiad a thriniaeth seicolegol yn ymwneud \u00e2\u2019r &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/the-psychology-wellbeing-service\/","og_site_name":"WIBSS","article_modified_time":"2022-12-14T11:14:17+00:00","og_image":[{"url":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/Mindfullness-APP.jpg","type":"","width":"","height":""}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"14 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/the-psychology-wellbeing-service\/","url":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/the-psychology-wellbeing-service\/","name":"[:en]The Psychology & Wellbeing Service[:cy]Gwasanaeth Seicoleg a Lles[:] - WIBSS","isPartOf":{"@id":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/the-psychology-wellbeing-service\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/the-psychology-wellbeing-service\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/Mindfullness-APP.jpg","datePublished":"2020-02-25T09:39:29+00:00","dateModified":"2022-12-14T11:14:17+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/the-psychology-wellbeing-service\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-CY","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/the-psychology-wellbeing-service\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-CY","@id":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/the-psychology-wellbeing-service\/#primaryimage","url":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/Mindfullness-APP.jpg","contentUrl":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/Mindfullness-APP.jpg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/the-psychology-wellbeing-service\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"The Psychology &#038; Wellbeing Service"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/#website","url":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/","name":"WIBSS","description":"Welsh Infected Blood Support Scheme","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-CY"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/938","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=938"}],"version-history":[{"count":18,"href":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/938\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1450,"href":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/938\/revisions\/1450"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=938"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}