{"id":582,"date":"2017-10-30T09:10:15","date_gmt":"2017-10-30T09:10:15","guid":{"rendered":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/?page_id=582"},"modified":"2024-10-16T09:48:56","modified_gmt":"2024-10-16T09:48:56","slug":"privacy-policy","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/cy\/privacy-policy\/","title":{"rendered":"Datganiad Preifatrwydd"},"content":{"rendered":"<div>\n<h1>Hysbysiad Preifatrwydd<\/h1>\n<p>Diben yr hysbysiad hwn yw eich hysbysu ynghylch pam a sut rydym yn prosesu eich data personol.<\/p>\n<p><strong>Hysbysiad Preifatrwydd Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru<\/strong><\/p>\n<p><strong>Cyflwyniad<\/strong><\/p>\n<p>Mae GIG Cymru yn gartref i sawl sefydliad iechyd, sy\u2019n cynnwys Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC). Mae PCGC yn darparu llawer o wasanaethau ledled Cymru.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Os oes gennych unrhyw gwestiynau yngl\u0177n \u00e2\u2019r wybodaeth hon, rhaid i chi gysylltu \u00e2 Chynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru ar 02921 500 900 neu anfon e-bost at: <a href=\"mailto:VCC.WIBSS@wales.nhs.uk\">VCC.WIBSS@wales.nhs.uk<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae\u2019r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi\u2019i gyhoeddi gan swyddogaeth Llywodraethu Gwybodaeth PCGC i gynorthwyo a hwyluso prosesau hawliau gwybodaeth o fewn GIG Cymru.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Eich hawliau<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r daflen hon yn ymdrin \u00e2\u2019ch hawliau o dan ddeddfwriaeth a elwir y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU). Mae\u2019n pwysleisio angen PCGC i wneud yn si\u0175r ein bod yn esbonio sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth yn ystod unrhyw broses sy\u2019n cynnwys gwybodaeth gyfrinachol adnabyddadwy a sensitif.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Bydd yr wybodaeth a roddwn ichi am sut y byddwn yn defnyddio\u2019ch data:<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<ul>\n<li>Yn gryno, yn hawdd ei deall ac yn hygyrch.<\/li>\n<li>Wedi\u2019i hysgrifennu\u2019n glir ac yn syml ac<\/li>\n<li>Yn rhad ac am ddim.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, fel y sefydliad sy\u2019n lletya Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) a Chanolfan Ganser Felindre (CGF) sy\u2019n gyfrifol am y gwasanaeth hwn.<\/p>\n<p><strong>Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS) <\/strong><\/p>\n<p>Wedi\u2019i sefydlu ym mis Hydref 2017, nod Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS) yw darparu cymorth i bobl sydd wedi\u2019u heintio \u00e2 Hepatitis C a\/neu HIV o ganlyniad i driniaeth y GIG \u00e2 gwaed, cynhyrchion gwaed neu feinwe yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae WIBSS wedi cymryd drosodd cynlluniau blaenorol y DU (Ymddiriedolaeth Eileen, Ymddiriedolaeth Macfarlane, MFET Ltd, Cronfa Skipton a Sefydliad Caxton) a\u2019i nod yw darparu gwasanaeth taliadau ariannol symlach, Gwasanaeth Cyngor Llesiant a gwasanaeth Seicoleg a Llesiant ar gyfer buddiolwyr a&#8217;u teuluoedd yng Nghymru.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Pa gyfreithiau ydyn ni\u2019n eu dilyn?<\/strong><\/p>\n<p>Y gyfraith sy\u2019n pennu sut rydym yn defnyddio\u2019ch gwybodaeth. Dyma restr o\u2019r cyfreithiau rydym yn eu dilyn sy\u2019n caniat\u00e1u inni ddefnyddio\u2019ch gwybodaeth:<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<ul>\n<li>Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU)<\/li>\n<li>Bil Diogelu Data\u2019r DU<\/li>\n<li>Y Ddeddf Hawliau Dynol<\/li>\n<li>Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth<\/li>\n<li>Dyletswydd Cyfrinachedd y Gyfraith Gyffredin<\/li>\n<li>Y Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron<\/li>\n<li>Deddf y Comisiwn Archwilio<\/li>\n<li>Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS) sy\u2019n gweinyddu\u2019r prosesau ar ran GIG Cymru, yw deiliad a defnyddiwr eich gwybodaeth.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Pa fathau o wybodaeth bersonol ydyn ni&#8217;n eu defnyddio?<\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Bydd yr wybodaeth a restrir isod, a roddwch fel rhan o broses WIBSS, yn cael ei defnyddio fel a ganlyn.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Cymhwyso<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Enw&#8217;r cynllun;<\/li>\n<li>Cyfeirnod y cynllun;<\/li>\n<li>Cyfenw; Pob enw hysbys;<\/li>\n<li>Enw(au) Cyntaf;<\/li>\n<li>Dyddiad Geni;<\/li>\n<li>Cyfeiriad a chod post;<\/li>\n<li>Math o gais \u2013 ar gyfer gwirio ceisiadau newydd;<\/li>\n<li>Unrhyw gyfeiriadau blaenorol yn y DU \u2013 ar gyfer gwirio ceisiadau newydd; ac<\/li>\n<li>Unrhyw gyfrifon cysylltiedig gan Bartneriaid, Dibynyddion \u2013 ar gyfer gwirio ceisiadau newydd.<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Gwirio gyda chynlluniau gwaed heintiedig eraill<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Enw&#8217;r cynllun;<\/li>\n<li>Cyfeirnod y cynllun;<\/li>\n<li>Cyfenw; Pob enw hysbys;<\/li>\n<li>Enw(au) Cyntaf;<\/li>\n<li>Dyddiad Geni;<\/li>\n<li>Cyfeiriad a chod post;<\/li>\n<li>Math o gais \u2013 ar gyfer gwirio ceisiadau newydd;<\/li>\n<li>Unrhyw gyfeiriadau blaenorol yn y DU \u2013 ar gyfer gwirio ceisiadau newydd;<\/li>\n<li>Unrhyw gyfrifon cysylltiedig gan Bartneriaid, Dibynyddion \u2013 ar gyfer gwirio ceisiadau newydd; a<\/li>\n<li>Gwybodaeth profiant yn ymwneud \u00e2 thalu arian sy\u2019n ddyledus i ystad buddiolwyr ymadawedig.<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Math o wybodaeth bersonol a ddefnyddiwyd (parhad)<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Taliadau<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Enw&#8217;r cynllun;<\/li>\n<li>Cyfeirnod y cynllun;<\/li>\n<li>Cyfenw; Pob enw hysbys;<\/li>\n<li>Enw(au) cyntaf; a<\/li>\n<li>Manylion banc.<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Pam rydym yn prosesu eich gwybodaeth.<\/strong><\/p>\n<p>Byddwn yn defnyddio\u2019r wybodaeth a roddwch i:<\/p>\n<ul>\n<li>asesu eich cais,<\/li>\n<li>gwneud taliadau yn unol \u00e2 Chynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS),<\/li>\n<li>gwirio am dwyll a gwallau,<\/li>\n<li>dadansoddi tueddiadau cyffredinol i gefnogi cynllunio mwy effeithiol ar gyfer gwasanaethau&#8217;r GIG.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn \u00f4l y gyfraith, rhaid inni brosesu\u2019r wybodaeth hon ar ran y GIG.<\/p>\n<p>Mae\u2019n bosibl y byddwn yn cysylltu \u00e2 chi yngl\u0177n \u00e2 chymryd rhan mewn arolygon ac ymchwil i ddysgu beth sydd ei angen arnoch o\u2019n gwasanaethau.<\/p>\n<p><strong>Rhannu eich gwybodaeth bersonol<\/strong><\/p>\n<p>Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth \u00e2\u2019r canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>gweinyddwyr Cynlluniau Cymorth Gwaed Heintiedig eraill yn y DU i sicrhau eich bod yn cael eich cyfeirio at y cynllun cywir, gan gynnwys gweithgareddau paru data at ddibenion atal twyll,<\/li>\n<li>Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i wneud taliadau o dan y Cynllun Iawndal Dros Dro Gwaed Heintiedig (ICSP),<\/li>\n<li>gweithwyr meddygol proffesiynol ar gyfer asesu unrhyw geisiadau\/apeliadau a wneir yn y dyfodol,<\/li>\n<li>yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol at ddibenion cynllunio a gwybodaeth,<\/li>\n<li>GIG Cymru at ddibenion cynllunio a gwybodaeth, a chynghori ar gynnwys triniaethau seicolegol ychwanegol, i\u2019r rhai a restrir gan NICE,<\/li>\n<li>Russell Cooke Solicitors i gael yr wybodaeth angenrheidiol i wneud taliadau cywir,<\/li>\n<li>Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) \/ Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (HMCTS) a\u2019r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) ar gyfer prosesu taliadau iawndal i ystad buddiolwr ymadawedig (yn ymwneud \u00e2 gwybodaeth profiant).<\/li>\n<\/ul>\n<p>Byddwn yn rhannu gwybodaeth i helpu i atal twyll a chamgymeriadau.<\/p>\n<p>O dan y gyfraith, dim ond gyda&#8217;r rhai sy&#8217;n gyfrifol am Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (a chynlluniau Cenhedloedd eraill) y caiff eich gwybodaeth ei rhannu.<\/p>\n<p>Gwneir hyn fel mai dim ond y bobl briodol sy&#8217;n gweithio gyda&#8217;i gilydd i atal twyll a darparu&#8217;r gwasanaeth priodol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio\u2019ch gwybodaeth fel a ganlyn:<\/p>\n<p><strong>Erthygl 6 GDPR y DU (Cyfreithlondeb Prosesu):<\/strong><\/p>\n<p>Mae Testun Data 1(a) wedi rhoi cydsyniad i brosesu ei ddata personol at un neu fwy o ddibenion penodol;<\/p>\n<p>(b) mae angen prosesu ar gyfer cyflawni contract y mae gwrthrych y data yn cymryd rhan ynddo neu er mwyn cymryd camau, ar gais gwrthrych y data, cyn ymrwymo i gontract;<\/p>\n<p>(e) mae angen prosesu ar gyfer cyflawni tasg a weithredir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a ymddiriedir yn y rheolwr;<\/p>\n<p>(f) Mae angen prosesu at ddibenion y buddion cyfreithlon y mae&#8217;r rheolwr neu drydydd parti yn eu dilyn<\/p>\n<p><strong>Erthygl 9 GDPR y DU (Prosesu Categor\u00efau Arbennig o Ddata Personol)<\/strong><\/p>\n<p>2(a) Mae\u2019r testun data wedi rhoi cydsyniad clir i brosesu\u2019r data personol hynny at un diben penodol neu fwy;<\/p>\n<p>(h) bod prosesu yn angenrheidiol at ddibenion darparu gofal iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol.<\/p>\n<p><strong>Diogelwch eich Gwybodaeth<\/strong><\/p>\n<p>Mae PCGC yn cymryd y cyfrifoldeb sydd ganddi i warchod eich gwybodaeth bersonol yn ddifrifol iawn. Ni waeth a yw&#8217;r wybodaeth honno ar ffurf electronig neu ar bapur.<\/p>\n<p>Rydym hefyd yn cyflogi rhywun sy\u2019n gyfrifol am reoli gwybodaeth a\u2019i chyfrinachedd er mwyn sicrhau:<\/p>\n<ul>\n<li>Bod eich gwybodaeth wedi ei diogelu, ac er mwyn<\/li>\n<li>Rhoi gwybod ichi sut y caiff ei defnyddio.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae disgwyl i bob aelod o staff gwblhau hyfforddiant yn rheolaidd. Mae angen hyfforddiant cynhwysfawr er mwyn gallu diogelu\u2019r wybodaeth sydd wedi ei rhoi i PCGC.\u00a0 Mae\u2019r hyfforddiant hwn yn sicrhau bod pob aelod o staff sy\u2019n gweithio yn GIG Cymru yn ymwybodol o\u2019i gyfrifoldebau mewn perthynas \u00e2 thrin eich gwybodaeth, ni waeth pa adran mae\u2019n gweithio ynddi.<\/p>\n<p><strong>Cadw eich gwybodaeth bersonol<\/strong><\/p>\n<p>Ni fydd unrhyw ddata personol yn cael ei ddileu cyn i\u2019r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig ddod i ben. Dim ond cyhyd \u00e2\u2019r dibenion y caiff ei gasglu a\u2019i brosesu ar ei gyfer y bydd data\u2019n cael ei gadw, a chaiff hyn ei adolygu ar ddiwedd yr ymchwiliad.<\/p>\n<p>Fel buddiolwr, dim ond at y dibenion a eglurwyd uchod y bydd gwybodaeth a brosesir amdanoch yn cael ei defnyddio ac ni chaiff ei rhannu ag unrhyw un arall heb ganiat\u00e2d. Yr unig eithriad yw ar y cyd \u00e2 gorchymyn llys neu ofyniad deddfwriaethol.<\/p>\n<p><strong>Eich hawliau<\/strong><\/p>\n<p>Caiff yr wybodaeth rydych chi wedi ei darparu ei rheoli yn unol \u00e2\u2019r gyfraith ym maes diogelu data.<\/p>\n<p>Mae gennych yr hawl i\u2019r canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Gwybod sut y defnyddir y manylion a geir o\u2019ch gwybodaeth.<\/li>\n<li>derbyn copi o\u2019r wybodaeth y mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) yn ei chadw amdanoch chi,<\/li>\n<li>gofyn inni newid eich gwybodaeth os ydych chi\u2019n credu nad oedd yn gywir pan ddarparwyd yr wybodaeth gennych,<\/li>\n<li>gofyn i\u2019ch gwybodaeth gael ei dileu os credwch ein bod yn ei chadw am gyfnod hirach nag sydd angen.<\/li>\n<\/ul>\n<p>I gael gwybod mwy am eich hawliau a sut rydym yn prosesu eich gwybodaeth, cliciwch yma <a href=\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/privacy-policy\/\">Polisi Preifatrwydd &#8211; WIBSS (wales.nhs.uk)<\/a><\/p>\n<p><strong>Caniat\u00e2d (cydsyniad)<\/strong><\/p>\n<p>Er mwyn sicrhau bod y defnydd o\u2019ch gwybodaeth bersonol yn gyfreithlon, mae\u2019n bosibl y bydd PCGC yn gofyn am eich caniat\u00e2d i\u2019w defnyddio. Nid yw hyn yn angenrheidiol os yw&#8217;r defnydd ar gyfer sail gyfreithlon o dan reoliad presennol megis gweinyddu dibenion Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru.<\/p>\n<p>Mae\u2019n rhaid eich bod wedi rhoi caniat\u00e2d (cydsyniad) o\u2019ch gwirfodd ac nad ydych wedi bod dan bwysau i wneud hynny. Mae\u2019n rhaid bod hyn wedi ei wneud mewn modd eglur, ac mae\u2019n rhaid eich bod yn ymwybodol o sut y caiff eich gwybodaeth ei thrin.<\/p>\n<p><strong>Rhoi gwybod ichi a chael eich cydsyniad<\/strong><\/p>\n<p>Os byddwn yn gofyn am eich caniat\u00e2d, cewch chi wybodaeth am hyn ar ffurf yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn. Bydd hyn yn egluro beth y mae gofyn ichi roi caniat\u00e2d ar ei gyfer. Bydd rhaid i PCGC brofi ei bod wedi rhoi gwybodaeth ichi, a\u2019ch bod wedi llwyr ddeall beth roddoch chi ganiat\u00e2d ar ei gyfer.<\/p>\n<p>Os gofynnir am ganiat\u00e2d, gallwch roi eich cydsyniad mewn sawl ffordd. Gallwch ei roi yn ysgrifenedig, trwy dicio blwch ar wefan, trwy ddewis opsiynau ar ap ff\u00f4n symudol, neu drwy unrhyw weithred arall sy\u2019n dangos eich bod wedi derbyn y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio.<\/p>\n<p><strong>Beth am atal y defnydd o\u2019r wybodaeth?<\/strong><\/p>\n<p>Er bod y seiliau cyfreithiol ar gyfer prosesu yn glir uchod, bydd PCGC yn ystyried cais am roi&#8217;r gorau i ddefnyddio a dderbynnir. Fodd bynnag, bydd PCGC yn storio gwybodaeth ond ni fydd yn ei defnyddio mwyach.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, byddwch yn cael gwybod am unrhyw newidiadau i sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio, gan gynnwys rhoi\u2019r gorau i ddefnyddio\u2019ch gwybodaeth, ar yr adeg y cymerir y penderfyniad, a hynny ni waeth pa adran neu wasanaeth sydd dan sylw. Bydd unrhyw gyfyngiad o ran dileu eich gwybodaeth yn cael ei ystyried fesul achos ond bydd ceisiadau am ddileu a\/neu gywiriad yn cael eu hystyried.<\/p>\n<p><strong>Penderfyniadau a wneir yn awtomatig<\/strong><\/p>\n<p>Mae PCGC hefyd yn cymryd camau i atal y risgiau a all godi o gymryd penderfyniadau yn awtomatig:<\/p>\n<p>Bydd hyn yn berthnasol i chi pan:<\/p>\n<ul>\n<li>fydd yn broses awtomatig ac<\/li>\n<li>fydd gan benderfyniad a wnaed \u00e2\u2019ch gwybodaeth rym cyfreithiol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019n bosibl y bydd PCGC yn awtomeiddio rhai penderfyniadau \u00e2\u2019ch gwybodaeth, ond fel arfer bydd rhywfaint o fewnbwn gan fod dynol wrth wneud hyn.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, bydd PCGC yn cymryd camau i nodi faint o benderfyniadau a wneir yn awtomatig ac i ystyried a yw\u2019r rhain yn dderbyniol.<\/p>\n<p>Bydd PCGC yn sicrhau bod unrhyw broffilio awtomatig yn deg ac yn gyfreithlon. Bydd PCGC yn defnyddio gweithdrefnau priodol, gan gynnwys cywiro gwallau lle bo data yn anghywir.<\/p>\n<p><strong>Gwneud cwyn<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Os hoffech wneud cwyn ynghylch unrhyw broblemau sydd wedi codi mewn perthynas \u00e2\u2019ch gwybodaeth, cysylltwch \u00e2:<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Tim Knifton<\/p>\n<p>Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth<\/p>\n<p><a href=\"mailto:tim.knifton@wales.nhs.uk\">tim.knifton@wales.nhs.uk<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Os ydych chi\u2019n dal yn anfodlon yn dilyn eich cwyn, mae gennych yr hawl i wneud cwyn i:<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Swyddfa&#8217;r Comisiynydd Gwybodaeth<\/p>\n<p>Wycliffe House<br \/>\nWater Lane<br \/>\nWilmslow<br \/>\nCheshire<br \/>\nSK9 5AF<\/p>\n<p><strong>Rhif Ff\u00f4n:<\/strong>\u00a00303 123 1113<\/p>\n<p>Y cyfeiriad electronig ar gyfer cwynion trwy&#8217;r porth yw:\u00a0 <a href=\"https:\/\/ico.org.uk\/make-a-complaint\/\">https:\/\/ico.org.uk\/make-a-complaint\/<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Dyma fanylion cyswllt dwyieithog yng Nghymru<\/p>\n<p><a href=\"mailto:wales@ico.org.uk\">wales@ico.org.uk<\/a><\/p>\n<p>0330 414 6421<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<\/div>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<div><\/div>\n<div><\/div>\n<div><\/div>\n<div><\/div>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<div><\/div>\n<div><\/div>\n<div><\/div>\n<div><\/div>\n<div><\/div>\n<div><\/div>\n<div><\/div>\n<div><\/div>\n<div><\/div>\n<div><\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Hysbysiad Preifatrwydd Diben yr hysbysiad hwn yw eich hysbysu ynghylch pam a sut rydym yn prosesu eich data personol. Hysbysiad Preifatrwydd Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru Cyflwyniad Mae GIG Cymru yn gartref i sawl sefydliad iechyd, sy\u2019n cynnwys Partneriaeth Cydwasanaethau &hellip; <a href=\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/cy\/privacy-policy\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-582","page","type-page","status-publish","hentry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.1.1 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Datganiad Preifatrwydd - WIBSS<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/privacy-policy\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"[:en]Privacy Policy[:cy]Datganiad Preifatrwydd[:] - WIBSS\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Hysbysiad Preifatrwydd Diben yr hysbysiad hwn yw eich hysbysu ynghylch pam a sut rydym yn prosesu eich data personol. Hysbysiad Preifatrwydd Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru Cyflwyniad Mae GIG Cymru yn gartref i sawl sefydliad iechyd, sy\u2019n cynnwys Partneriaeth Cydwasanaethau &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/privacy-policy\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"WIBSS\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-10-16T09:48:56+00:00\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"8 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/privacy-policy\/\",\"url\":\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/privacy-policy\/\",\"name\":\"[:en]Privacy Policy[:cy]Datganiad Preifatrwydd[:] - WIBSS\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/#website\"},\"datePublished\":\"2017-10-30T09:10:15+00:00\",\"dateModified\":\"2024-10-16T09:48:56+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/privacy-policy\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-CY\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/privacy-policy\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/privacy-policy\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Privacy Policy\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/#website\",\"url\":\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/\",\"name\":\"WIBSS\",\"description\":\"Welsh Infected Blood Support Scheme\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-CY\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"[:en]Privacy Policy[:cy]Datganiad Preifatrwydd[:] - WIBSS","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/privacy-policy\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"[:en]Privacy Policy[:cy]Datganiad Preifatrwydd[:] - WIBSS","og_description":"Hysbysiad Preifatrwydd Diben yr hysbysiad hwn yw eich hysbysu ynghylch pam a sut rydym yn prosesu eich data personol. Hysbysiad Preifatrwydd Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru Cyflwyniad Mae GIG Cymru yn gartref i sawl sefydliad iechyd, sy\u2019n cynnwys Partneriaeth Cydwasanaethau &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/privacy-policy\/","og_site_name":"WIBSS","article_modified_time":"2024-10-16T09:48:56+00:00","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"8 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/privacy-policy\/","url":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/privacy-policy\/","name":"[:en]Privacy Policy[:cy]Datganiad Preifatrwydd[:] - WIBSS","isPartOf":{"@id":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/#website"},"datePublished":"2017-10-30T09:10:15+00:00","dateModified":"2024-10-16T09:48:56+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/privacy-policy\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-CY","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/privacy-policy\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/privacy-policy\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Privacy Policy"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/#website","url":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/","name":"WIBSS","description":"Welsh Infected Blood Support Scheme","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-CY"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/582","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=582"}],"version-history":[{"count":19,"href":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/582\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1705,"href":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/582\/revisions\/1705"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wibss.wales.nhs.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=582"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}